Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn cytundeb Brexit Llywodraeth y DU. Dyma pam.

1. Bydd yn ddrwg i'n heconomi ac i swyddi.

Unemployment in Wales falls to record low - Business Live

Brexit caled Torïaidd yw hwn a fydd yn dinistrio swyddi mewn sectorau allweddol fel gweithgynhyrchu. O fewn dyddiau, bydd busnesau'n wynebu rhwystrau newydd sylweddol i fasnachu pan fydd ein heconomi eisoes mewn argyfwng oherwydd Covid-19.

Ni all yr un blaid sy'n honni sefyll dros Gymru, nac ar ran pobl dosbarth gweithiol, wneud unrhyw beth heblaw gwrthwynebu'r fargen hon a'r dyfodol y mae'n ei chynrychioli.

Nid yw Plaid Cymru erioed wedi pleidleisio yn erbyn buddiannau economaidd Cymru ac nid yw hynny ar fin newid.


2. Mae'n wael i ffermwyr, yr amgylchedd a hawliau gweithwyr.

Welsh farmers rely on BPS to make a profit, survey shows - Farmers Weekly

Bydd ffermwyr sy’n gwerthu ŵyn i’r Undeb Ewropeiaidd yn wynebu gwaith papur ac archwiliadau newydd. Costau cynyddol a rhwystrau gweinyddol fydd yn wynebu gweithgynhyrchwyr sy’n ddibynnol ar gadwyni cyflenwi’r UE. Cafwyd addewid y byddai gadael yr UE yn lleihau biwrocratiaeth, ond mae’r Ceidwadwyr wedi dewis gwneud masnachu’n fwy cymhleth.  

Bydd hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhwygo hawliau gweithwyr a safonau amgylcheddol ac yn tanseilio datganoli democrataidd.


3. Nid yw hyn yn fater o ddim cytundeb. 

Call for 'digital parliament' gains backing of one in five MPs |  PublicTechnology.net

Mae'r syniad bod y dewis rhwng cytundeb Brexit a dim cytundeb yn ddewis hollol ffug. Mae'n siomedig iawn gweld Llafur yn llyncu celwydd y Torïaid.

Mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi ymestyn y trafodaethau hyd at y funud olaf er mwyn dwrdio’u cytundeb trwy’r Senedd, gyda’r Blaid Lafur yn fodlon eu cefnogi. Bydd y cytundeb niweidiol hwn yn cael ei basio, gydag unrhyw bleidlais yn weithred gwag o ddiystyr sy’n bwrw sen ar ddemocratiaeth seneddol a sofreniaeth.

O dan yr amgylchiadau bydd Plaid Cymru’n pleidleisio yn unol â’n cydwybod. Rydym wedi ymwrthod gadael heb gytundeb erioed, ond oes dim gwadu bod y cytundeb hwn yn un gwael i Gymru.


4. Mae'n cipio dyfodol pobl ifanc oddi wrthyn nhw.

Uncertainty” faced exchange students in Europe in the Covid-19 crisis | by  Na Qing | OK Student | Medium

Bydd y cytundeb hwn yn cau’r drws yn wynebau’n pobl ifanc, gan wadu iddynt y cyfleoedd sydd ar gael fel mater o hawl i Ewropeiaid ifanc eraill. Yn lle Erasmus, mae cynnig rhyw hanner syniad cynamserol iddynt. Mae’r union wleidyddion a gafodd y budd mwyaf o’r rhyddid i deithio yn gwrthod cenhedlaethol iau o gyfleon tebyg.

Dyma benderfyniad hanesyddol o ddinistriol ac mae’n ddyletswydd arnon ni i’w wrthwynebu. Mae’n bwysig ein bod yn cofnodi’n pryderon am y cytundeb hwn. O leiaf felly bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gwybod na chafodd y ffasiwn gytundeb gwael rwydd hynt trwy’r Senedd.


5. Achos mae Cymru angen cytundeb newydd, gwell. 

For the first time in 600 years, Welsh independence could actually happen -  Nation.Cymru

Yr hyn sydd ei wir angen ar Gymru yw Bargen Newydd – perthynas â San Steffan a fyddai'n ein galluogi i fod yn gymydog da yn hytrach na thenant sy'n cael ei drin yn wael.

Mae hyn yn golygu rheolaeth dros ein heconomi, cyfiawnder, ein system les ac adnoddau naturiol lle gwneir penderfyniadau er lles pawb sy'n byw yma – Cymru wirioneddol annibynnol.