Nawr yw’r amser i osod mas y camau ar gyfer datganoli darlledu, meddai Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd “camau beiddgar” i ddechrau'r gwaith sydd ei angen i alluogi datganoli pwerau dros ddarlledu, a gweithredu ar argymhelliad allweddol adroddiad a gyhoeddwyd heddiw i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru.

Dywed llefarydd Plaid Cymru dros ddarlledu, Heledd Fychan AS, bod cyfryngau annibynnol yn “hollbwysig” i gymdeithas ddemocrataidd.

Daw'r galwadau yn dilyn cyhoeddi adroddiad gan banel arbenigol sy'n edrych ar ddatganoli darlledu i Gymru.

Mae'r Cytundeb Cydweithio yn dweud bod Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cytuno y dylid datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i'r Senedd.

Argymhelliad canolog yr adroddiad yw y dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru, erbyn mis Medi 2024.

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod yr argymhelliad yn “rhy bwysig i oedi”.

Dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru dros ddarlledu,:

“Mae’r adroddiad heddiw yn ddatblygiad sylweddol i Gymru i’n helpu i gymryd camau i roi hwb i’n democratiaeth.

“Mae cyfryngau teg, annibynnol a chytbwys wrth wraidd pob cymdeithas ddemocrataidd. Dylid gwneud penderfyniadau am faterion cyfathrebu a darlledu i Gymru, yng Nghymru. Tra bod gan wlad arall, a llywodraeth arall, y grym dros gyfryngau Cymru, democratiaeth Cymru fydd ar ei cholled.

“Yn hanfodol, mae’r adroddiad yn nodi y bydd angen corff yng Nghymru ar Lywodraeth Cymru i droi ato am arweiniad ar lywio’r newidiadau ar y gorwel, ac i gynyddu tryloywder a phlwraliaeth y cyfryngau yng Nghymru.

“Mae’r cyfrifoldeb nawr ar Lywodraeth Cymru i weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad a chymryd camau ar unwaith i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol. Mae hwn yn fater rhy bwysig i’w ohirio.”

Sefydlwyd y Panel Arbenigol drwy'r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn 2022.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Cefin Campbell AS:

“Trwy Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu mynd i’r afael yn uniongyrchol â’n pryderon am yr angen i gryfhau’r cyfryngau a gwarchod rhag ymosodiadau ar ei hannibyniaeth.

“Yng Nghymru, mae ein dull o ymdrin â darlledu a chyfathrebu yn ymwneud â budd y cyhoedd. Mae hyn yn hollol wahanol i ddull Llundain-ganolog, sy’n canolbwyntio ar elw Llywodraeth y DU.

“Credwn mewn dyfodol lle mae plwraliaeth ddemocrataidd ac amrywiol yn y cyfryngau sy’n gwella ac yn adlewyrchu bywyd cenedlaethol Cymru. Bydd sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru a all amddiffyn a gwella ein llwyfannau gwasanaethau cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn gam hollbwysig ymlaen.”