Mae aelodau Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin wedi dewis y cynghorydd lleol profiadol, Ann Davies, fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth newydd Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Cafodd Ann Davies ei geni a’i magu yn Sir Gaerfyrddin ac mae wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir dros ward Llanddarog ers 2017 ac Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio ers 2021.

Yn gyn-ddarlithydd mewn addysg blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a chyn athrawes gerdd beripatetig, mae Ann yn gydberchennog meithrinfa leol i blant ac mae wedi ffermio yn ardal Llanarthne ers 1992.

Mae Ann wedi ennill enw da fel ymgyrchydd diwyd, gan wasanaethu fel cadeirydd sirol undeb ffermio, ac fel llais amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn peilonau ar hyd Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin.

Wrth siarad ar ôl cael ei dewis, dywedodd Ann Davies:

“Mae’n anrhydedd cael fy newis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth newydd Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol. Cefais fy ngeni a'm magu yn y sir - ac rwy'n deall yr heriau sy'n wynebu ein trefi, ein pentrefi a'n cymunedau.

Rwyf am fod yn llais cryf, profiadol i sefyll yn erbyn yr annhegwch, a’r anghyfiawnder cymdeithasol sy’n cael ei ysgogi gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn ogystal â herio'r Llywodraeth Llafur Cymru ym Mae Caerdydd sy’n esgeuluso ein hardaloedd gwledig yn lawer rhy aml.

Rwy’n edrych ymlaen am yr ymgyrch, a’r cyfle i gael siarad â chymaint o bobl â phosib ledled yr etholaeth dros y misoedd nesaf - gan wrando ar y materion sy’n effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd, a rhannu neges gadarnhaol Plaid Cymru dros degwch, dros i uchelgais, a thros Gymru.”

Bydd sedd newydd Caerfyrddin yn uno rhannau o etholaethau presennol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro - gan ymestyn o Hendy-gwyn ar Daf i Ddyffryn Aman.

Dywedodd Adam Price, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:

  “Rwyf wrth fy modd bod Ann wedi’i dewis fel ein hymgeisydd yma yn sedd newydd Caerfyrddin.

Edrychaf ymlaen at roi fy nghefnogaeth lawn i Ann a’r ymgyrch etholiadol sydd i ddod, wrth inni edrych i ennill yr hyn sydd bob amser wedi bod yn sedd dyngedfennol i’r blaid. Gall Ann gyflawni dros Blaid Cymru, dros Sir Gaerfyrddin, a dros Gymru."

Ychwanegodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru:

“Bydd Ann yn ymgeisydd heb ei ail i’r Blaid yn Sir Gaerfyrddin. Mae hi’n ymroddgar, hygyrch, yn brofiadol ac yn deall yr ardal a’r caledi sy’n wynebu cymaint - o’n hardaloedd amaethyddol i’n cymunedau ôl-ddiwydiannol.

Byddai ei chefndir, ei phrofiad a’i gwreiddiau dwfn yng nghymunedau Sir Gaerfyrddin yn ei gwneud yn Aelod Seneddol gwych - o Rydaman i Rydcymerau, Llanymddyfri i Lanboidy.

Mae’n bryd uno y tu ôl i Ann, a sicrhau ei bod yn cael ei hethol i ymuno â’r tîm gweithgar o ASau Plaid Cymru sydd bob amser yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf.”