Ben Lake AS yn annog y Canghellor i roi cefnogaeth i’r diwydiant lletygarwch hyd at 2022

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, heddiw (18 Chwefror 2021) wedi annog y Canghellor i roi blaenoriaeth i alluogi’r sector lletygarwch i oroesi yng Nghyllideb 2021, trwy ymestyn y cynllun ffyrlo a chadw at y gyfradd is o TAW i’r sector. Byddai methu gwneud hynny “nid yn unig yn ergyd i’r sector ond hefyd i economi Cymru yn ehangach”, yn ôl AS Plaid Cymru.

Bydd y Canghellor, Rishi Sunak yn gosod allan gyllideb Llywodraeth y DG ar ddydd Mercher, 3 Mawrth, bron i flwyddyn ers y Gyllideb ddiwethaf ar 11 Mawrth 2020.

O holl wledydd y DG a rhanbarthau Lloegr, gan Gymru y mae’r gyfran uchaf o gyfanswm swyddi yn y sector lletygarwch (8.5%) mewn cymhariaeth â’r cyfanswm cyflogaeth, gan gyflogi dros 123,000 o bobl.

I helpu’r diwydiant lletygarwch dros y misoedd i ddod, galwodd AS Ceredigion ar y Canghellor i ymestyn y cynllun ffyrlo “cyhyd ag y bydd cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn mynnu hynny”, gan ail-adrodd barn ei blaid y dylid darparu cymorth ariannol yn unol â rheoliadau datganoledig yn hytrach na chael ei benderfynu’n unochrog gan lywodraeth San Steffan.

Galwodd hefyd ar y Canghellor i ymestyn y gyfradd is o TAW ar 5% i’r diwydiannau lletygarwch a thwristiaeth am flwyddyn hyd at Fawrth 2022. Yr oedd Plaid Cymru wedi croesawu cyhoeddiad y Canghellor ym mis Gorffennaf 2020 i osod cyfradd is o TAW ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth – fu’n bolisi Plaid Cymru ers tro byd – ac y maent yn awr yn annog y Canghellor i barhau â’r polisi hwn.

Mewn cyfnod hollbwysig yn y pandemig, dywedodd Mr Lake “na allwn fforddio taflu llwyddiant i ffwrdd trwy roi terfyn cynnar ar gymorth ariannol y mae mawr ei angen i fusnesau bychain ledled Cymru.”

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS:

“Mae miloedd o swyddi yn nhafarnau, bariau, gwestai a bwytai Cymru mewn perygl y gwanwyn hwn, pan fydd llawer o raglenni cefnogi i fod i ddod i ben. Cyflogir 123,000 o bobl yng Nghymru  yn y sector lletygarwch - rhyw 8.5% o’r cyfanswm cyflogaeth. Bydd methiant i gefnogi’r diwydiant lletygarwch ar 3 Mawrth nid yn unig yn ergyd i’r sector ond hefyd i economi Cymru yn ehangach.

“Yr ydym ni ym Mhlaid Cymru felly yn galw am estyniad o’r cynllun ffyrlo cyhyd ag y bydd cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn mynnu hynny. Rydym hefyd yn galw ar i’r Canghellor ymestyn y gyfradd is o TAW i’r diwydiannau lletygarwch a thwristiaeth am flwyddyn hyd at fis Mawrth 2022. Rhaid i gwmnïau gael y cyfle i ddod yn ôl ar eu traed, ac felly dylent elwa o un tymor o enillion haf o leiaf, er mwyn dychwelyd i wneud elw.

“Mae’r effaith economaidd yn debyg o gael ei deimlo am flynyddoedd i ddod, gyda busnesau yn wynebu dyled a threthi cynyddol. Rwyf felly yn annog y Canghellor i osod allan raglen ad-dalu gynaliadwy i fusnesau lletygarwch, fydd yn caniatáu taliadau fesul dipyn dros gyfnod o amser,  nid fel taliadau unwaith-am-byth.

“Bu’r pandemig yn hunllef i’r rhan fwyaf o fusnesau – ond mae haul ar fryn. Allwn ni ddim fforddio taflu’r llwyddiant ymaith trwy roi terfyn cynnar ar gymorth ariannol sydd ei fawr angen gan fusnesau bychain ledled Cymru.”