Heddiw (dydd Sul 25 Ebrill 2021) mae Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wedi lansio Maniffesto Busnes ei blaid, gan nodi cynlluniau uchelgeisiol i greu “economi ddoethach”.

Dywedodd Adam Price fod gan “Gymru un o’r lefelau isaf o berchnogaeth busnes lleol ar unrhyw economi ddatblygedig” ac y byddai llywodraeth Plaid Cymru “yn sicrhau bod pwyslais newydd yn cael ei roi ar gefnogi cwmnïau brodorol sydd â’r potensial i dyfu”.

Un o’r prif addewidion yw cefnogaeth Covid-19 brys i fusnesau ar ffurf benthyciadau di-log. Dywedodd Mr Price y byddai’n helpu i “gyflymu’r adferiad ar ôl y pandemig”, yn ogystal â grantiau ailsgilio brys i fynd i’r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau penodol.

Mae elfennau eraill o Faniffesto Busnes Plaid Cymru yn cynnwys:

  • Darparu Grantiau Ailgychwyn ar unwaith o hyd at £20,000 i fusnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden (ac eraill y mae cyfyngiadau cloi yn effeithio arnynt).
  • Datblygu Grantiau Ailsgilio Brys i fynd i'r afael â phrinder sgiliau a allai ddod i'r amlwg mewn sectorau penodol o'r economi, er enghraifft lletygarwch.
  • Polisi Lleol yn Gyntaf gyda pherchnogaeth leol o fusnes wrth ei wraidd.
  • Cynigion yn ystod tymor y Senedd ar gyfer Treth Gwerth Tir ar gyfer tir masnachol a diwydiannol – ag eithrio tir amaethyddol - gyda'r nod o ddileu cyfraddau annomestig.
  • Cynnig Grantiau Diogelu Busnes o hyd at 90% o gostau sefydlog i fusnesau a fydd yn parhau i gael eu heffeithio gan effeithiau'r pandemig yn ystod y 18 mis nesaf.
  • Polisi Cynnyrch Cymru i gynyddu cyfran ein heconomi sy'n eiddo domestig yn sylweddol.
  • Cyflwyno rhaglen fuddsoddi gwerth £6bn i gefnogi datblygiad busnes a Bargen Werdd Cymru.
  • Sefydlu Ffyniant Cymru, asiantaeth ddatblygu ledled Cymru hyd braich i ddarparu polisi'n effeithiol ar gyfer busnes.

Dywedodd Adam Price:

“Mae gan Gymru un o’r lefelau isaf o berchnogaeth busnes lleol o unrhyw economi ddatblygedig. Rhaid i hynny newid.

“Bydd ein cynlluniau ar gyfer economi ddoethach yn seiliedig ar ehangu, cefnogi a gwarchod busnesau domestig. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod pwyslais newydd yn cael ei roi ar gefnogi cwmnïau brodorol sydd â'r potensial i dyfu.

“Rydym yn cydnabod bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn her enfawr i fusnesau Cymru. Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn dod â chefnogaeth frys Covid-19 i mewn, gan gynnig benthyciadau di-log i fusnesau gyflymu’r adferiad ar ôl y pandemig.

“Byddai fy ffocws fel Prif Weinidog ar gefnogi cymaint o bobl â phosib yn ôl i mewn i waith, boed hynny trwy Warant Swyddi Ieuenctid neu drwy gefnogi busnesau gyda chymorth ariannol ychwanegol.

“Byddem yn estyn rhyddhad ardrethi busnes i’r sector lletygarwch a busnesau sy’n cael eu heffeithio waethaf, i ddechrau tan ddiwedd mis Mehefin ac yn hirach yn ôl yr angen.

“Yn ogystal, byddem yn datblygu cynllun cymorth brys i dalu am hyd at 90% o gostau sefydlog i fusnesau a fydd yn parhau i gael eu heffeithio gan y pandemig yn ystod y 18 mis nesaf.

“Mae polisïau eraill yn cynnwys hybu caffael i gynyddu lefelau arloesedd ac entrepreneuriaeth.

“Byddai ein rhaglen fuddsoddi gwerth £6bn - Bargen Werdd Cymru - yn creu hyd at 60,000 o swyddi gan sicrhau bod creu swyddi a’r amgylchedd yn mynd law-yn-llaw.

“Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol, wedi’i gostio’n llawn, sy’n profi mai Plaid Cymru yw plaid busnes Cymru.”