Plaid yn galw am strategaeth canser Cymru-gyfan wrth i amseroedd aros gyrraedd y niferoedd uchaf erioed
Plaid Cymru yn galw am ganolfannau diagnostig cynnar a diwedd ar loteri cod post
Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth canser i Gymru gyfan i fynd i'r afael â'r rhestrau aros cynyddol ar gyfer triniaeth a diagnosis, meddai Plaid Cymru.
Gwnaeth Plaid Cymru yr alwad heddiw (4 Chwefror) ar Ddiwrnod Canser y Byd.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal cymdeithasol, Rhun ap Iorwerth AS, fod angen cynllun hirdymor ar Gymru ar frys i fynd i'r afael ag ôl-groniad a phrinder staff fel rhan o “strategaeth ganser Cymru gyfan i flaenoriaethu diagnosis cynnar, cydnabod y miloedd sydd heb ddiagnosis ar hyn o bryd a sicrhau gofal digonol i'r cleifion hynny mewn cyfnodau diweddarach o ganser y bydd angen triniaethau mwy cymhleth arnynt”.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, sydd wedi ymgyrchu ers amser maith dros ganolfannau diagnostig ledled Cymru i sicrhau nad yw cleifion canser yn destun loteri cod post, y dylai sicrhau diagnosis cynnar ac y dylai bylchau yn y gweithlu fod yn flaenoriaeth mewn unrhyw strategaeth canser.
Mae’r mater yn agos iawn at galon Mr ap Gwynfor ar ôl i’w dad, Guto, gael diagnosis o ganser yn 2019 ac mae wedi bod yn derbyn triniaeth drwy gydol y pandemig.
Dywedodd Mr ap Gwynfor fod gan Gymru fylchau sylweddol yn y gweithlu sy’n diagnosio ac yn trin canser hyd yn oed cyn y pandemig. Mae hyn yn gwneud strategaeth canser Cymru gyfan yn bwysicach fyth.
Bu dwy flynedd ers i Gymru gael Strategaeth Canser – mae hyn yn rhoi Cymru'n groes i argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, sy’n nodi y dylai pob gwlad gael un yn ei lle.
Mae tua 20,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser ac amcangyfrifir bod 170,000 o bobl yn byw gyda'r clefyd.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal cymdeithasol Rhun ap Iorwerth AS,
“Mae effaith y pandemig ar driniaeth a diagnosis canser wedi bod yn niweidiol, ac mae'n parhau i fod yn niweidiol.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun ar frys i fynd i’r afael â'r ôl-groniad a’r prinder staff a grëwyd gan y pandemig. Dylai hyn fod yn rhan o strategaeth canser ehangach i Gymru gyfan, i flaenoriaethu diagnosis cynnar, cydnabod y miloedd sydd heb ddiagnosis ar hyn o bryd a sicrhau gofal digonol i’r cleifion hynny mewn camau diweddarach o ganser y bydd angen triniaethau mwy cymhleth arnynt.
“Nid dyma’r amser i fod heb strategaeth canser. Mae Cymru ymhlith y canlyniadau canser gwaethaf yn Ewrop, a bydd hyn ond yn gwaethygu os na chymerir camau.
“Yn y cyfamser, unrhyw un sydd ag unrhyw bryder, unrhyw symptom – plîs, plîs gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu.”
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS Plaid Cymru,
“Mae diagnosis cynnar yn allweddol i roi terfyn ar y gostyngiad mewn cyfraddau goroesi canser yng Nghymru.
“Rhaid i unrhyw strategaeth canser gynnwys cynlluniau hirdymor i sicrhau diagnosis cynnar. Mae datblygu Canolfannau Diagnostig Cyflym yn ddatblygiad i’w groesawu, ond er mwyn inni fynd i’r afael â chanser mewn ffordd ystyrlon mae angen inni lenwi'r bylchau enfawr yn y gweithlu.
“Rhaid i flaenoriaeth yn y strategaeth i drin a churo canser adlewyrchu sut y caiff y canolfannau diagnostig cyflym hyn eu staffio, a sut y sicrheir recriwtio yn gyffredinol mewn diagnosis a thriniaeth canser yn y tymor hir.
“Nid yw canser yn poeni am ddaearyddiaeth, ond mae cleifion yn poeni. Maent yn haeddu gwasanaeth cydradd, lle bynnag y maent yn byw.