Bydd arweinydd Plaid Cymru Adam Price heddiw yn gosod allan ei weledigaeth am lywodraeth Plaid Cymru mewn araith i Gynhadledd Ddigidol gyntaf y Blaid.

Bydd y rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i godi 50,000 o dai  i’r cyhoedd mewn 5 mlynedd, isafswm cyflog o £10 i ofalwyr a thorri’r dreth gyngor i deuluoedd cyffredin.

Mae disgwyl i Adam Price ddweud y bydd 100 diwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru “yn fwy radical na’r 20 mlynedd a aeth heibio – gofalu, adeiladu a chredu – mewn bywyd da i bawb a gwell bywyd i chi a’r teulu.”

Dan faner Newid Cymru am Byth, bydd arweinydd Plaid Cymru yn amlinellu llwyfan polisi trawsnewidiol mewn meysydd megis gofal plant, tai, cyflogau, iechyd, a gofal cymdeithasol.

Dyma fydd Adam Price yn ddweud:

“Mae gennym ni ym Mhlaid Cymru nod clir i’n gwlad: rydym eisiau sefyll ar ein traed ein hunain, yn annibynnol, yn rhydd a chydradd â chenhedloedd eraill ar hyd a lled y byd.

“Ond wrth ddod yn genedl gydradd, mae ein llygaid ar nod uwch: dod ein hunain yn Genedl Gyfartal.  Ddylai hynny ddim bod yn syndod. Mae’r syniad o gydraddoldeb yng ngwead ein hanes, ein diwylliant, ein cymeriad.

“Mae anghydraddoldeb incwm yn golygu disgwyliad einioes is, llythrennedd a rhifed dis, llai o gyfle cymdeithasol. Mae’n golygu lefelau uwch o farwolaethau babanod, mwy o droseddu, gordewdra, salwch meddwl, a bod yn gaeth i sylweddau. Mae’n golygu nid yn unig fwy o annhegwch i rai, ond mwy o ddiflastod i ni oll oherwydd bod cymdeithasau anghyfartal yn gyffredinol anhapus ar bob un sgôr. Cofiwch wers y pandemig - mae cysylltiad rhyngom i gyd.

“Dyw rheoli tlodi plant, digartrefedd a llygredd ddim yn ddigon da. Mae’n rhaid i ni eu dileu yn yr un ffordd ag yr ydym yn ceisio dileu’r feirws hwn. Nid dim ond y peth iawn i’w wneud yw hyn; mae’n synhwyrol, rhesymegol a mwy cost-effeithiol hefyd. Mae pob punt a fuddsoddir mewn digartrefedd yn ad-dalu’n driphlyg. Rhoi terfyn ar dlodi plant yw’r buddsoddiad gorau yn ein dyfodol ni oll y mae modd i ni ei wneud. Pam rheoli problem pan fedrwn ei datrys?

“Mae llawer ohonom yn cael ein hysbrydoli gan ieithwedd ail-adeiladu’n well. Ond gadewch i ni osod sylfeini newid parhaol. Gadewch i ni Newid Cymru am Byth.”

Wrth amlinellu llwyfan polisi uchelgeisiol Plaid Cymru ar gyfer llywodraeth, fe fydd Adam Price yn dweud:

“Gofal plant am ddim i bob teulu a phob plentyn o flwydd oed ymlaen. Taliad Plant Cymreig i bob plentyn mewn teulu sydd ei angen. Gwarant o swydd i bob person ifanc sydd angen un, gweithio ar adferiad gwyrdd, gofalu am ein plant, ein henoed, ein planed.

“A channoedd o bunnoedd oddi ar y bil i’r teulu cyffredin trwy ddiwygio’r Dreth Gyngor annheg – fel cam cyntaf tuag at roi rhywbeth llawer tecach yn ei lle.

“Fe wnawn adeiladu 10,000 o dai y flwyddyn. Tai cyhoeddus ar dir cyhoeddus. Tai gwirioneddol fforddiadwy, o ansawdd uchel ac i’r safonau amgylcheddol uchaf - 50,000 yn ystod ein tymor pum-mlynedd cyntaf - 30,000 o dai cymdeithasol, 15,000 o dai i’w prynu am bris fforddiadwy a 5,000 o gartrefi ar rent rhesymol.

“Hon fydd y rhaglen o dai cyhoeddus fwyaf ers y 1970au.

“A thra byddwn yn gwneud hynny, fe rown derfyn ar droi pobl allan o’u tai heb reswm, a rhewi a thorri rhenti annheg yn y sector rhentu preifat. Fe wnawn drethu ail gartrefi a rhoi diwedd ar y malltod tai yn ein cymunedau gwledig. 

“A dyma drydedd flaenoriaeth a’r un olaf a ddylai fod wrth graidd popeth a wnawn: gofal, y sawl sy’n ei ddarparu a’r sawl sydd ei angen. 

“Mae’r pandemig wedi rhoi i ni ddrych tywyll o’r modd yr ydym yn trefnu ein cymdeithas - ac y mae’n weledigaeth sobreiddiol. Gofal yw’r sector a anghofiwyd, a dangyllidwyd, na roddwyd gwerth arno, na thalwyd digon i’w gweithwyr oherwydd bod y Wladwriaeth - hyd yn oed dan Lywodraeth Lafur - wedi gosod y gwaith allan i gwmnïau preifat ar y ddealltwriaeth glir y buasent yn darparu’r nifer fwyaf o oriau gofal am y pris isaf. Rydym wedi gweld lle mae hynny wedi’n harwain. 

“Pan fyddaf i’n Brif Weinidog, wna’i fyth ganiatáu i hynny ddigwydd eto. Fe wnawn gyflwyno cydraddoldeb rhwng y cyfraddau cyflog yn y sectorau gofal a gofal iechyd a rhoi i weithwyr y GIG y codiad cyflog parchus y maent yn ymgyrchu drosto ar hyn o bryd.

“Fe fyddwn ni’n dod â gofal yn ôl i lle mae’n perthyn: gwasanaeth cyhoeddus, wedi’i gyllido’n gyhoeddus, yn talu cyflogau parchus – isafswm o £10 yr awr – yn y sector cyhoeddus.  Ac fel rhan o Wasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol, bydd gofal cymdeithasol, fel gofal iechyd ar gael am ddim i bawb sydd ei angen.”