Byddai rheoliadau i rymuso siopwyr i gefnogi ffermwyr lleol yn hybu amaethyddiaeth yng Nghymru, meddai Llyr Gruffydd AS

Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru (dydd Llun 24 Gorffennaf), mae llefarydd amaethyddiaeth Plaid Cymru Llyr Gruffydd AS wedi galw am reoliadau i orfodi archfarchnadoedd i alluogi defnyddwyr i hidlo am gig o Gymru wrth siopa ar-lein. Galwodd hefyd am wasanaethau siopa bwyd ar-alw i labelu tarddiad eu cig yn glir.

 

Ynghyd â llefarydd amaethyddiaeth Plaid Cymru yn San Steffan, Ben Lake AS, mae Mr Gruffydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn eu hannog i gyflwyno rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr gael mynediad at fwy o dryloywder ynghylch ble mae cig yn cael ei gynhyrchu. Dylai siopwyr ar-lein gael yr hawl i hidlo am gig a dofednod sy'n tarddu o Gymru, meddai Mr Gruffydd a Mr Lake.

 

Wrth siopa yn yr archfarchnadoedd, gall defnyddwyr edrych ar y silffoedd a gweld y labeli sy'n nodi a yw cynnyrch yn dod o'r DU. Ar-lein, mae hyn yn anoddach i'w wneud gan fod yn rhaid i ddefnyddwyr naill ai chwilio trwy wahanol eitemau neu nodi geiriau allweddol yn y bar chwilio. Mae’r rhwyddineb y gall defnyddwyr weld neu ddewis cynnyrch sy’n tarddu o’r DU hefyd yn amrywio rhwng y llwyfannau ar-lein a ddefnyddir gan yr archfarchnadoedd.

 

Mae’r gallu i hidlo yn gynyddol bwysig yn wyneb Cytundebau Masnach Rydd a lofnodwyd yn ddiweddar, a fydd dros amser yn gweld dileu tariffau ar gynhyrchion amaethyddol sensitif, gan dandorri ffermwyr Cymru drwy wneud cig o Awstralia a Seland Newydd yn fwy hygyrch ym marchnadoedd y DU.

 

Dywedodd Llyr Gruffydd AS:

 

“Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru eleni, mae Plaid Cymru yn falch o gefnogi ffermwyr a’u hymdrechion i hybu cig Cymreig.

 

“Wrth brynu yn y siop bydd llawer ohonom yn dewis cig Cymreig sy’n aml yn hawdd ei adnabod ar y silffoedd. Mae realiti ein bywydau prysur yn golygu bod mwy a mwy yn dewis siopa ar-lein, lle mae diffyg system hidlo hawdd yn golygu nad yw hi mor hawdd dewis cig Cymreig. Mae hyn yn tanseilio gwaith caled ffermwyr Cymru sy’n ymfalchïo mewn cynhyrchu cig o’r safon uchaf.

 

“Ynghyd â Ben Lake, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig am y mater pwysig hwn. Credwn fod tryloywder a grymuso yn mynd law yn llaw. Drwy gyflwyno rheoliadau newydd sy’n gorfodi archfarchnadoedd i’w gwneud yn bosibl hidlo cig yn hawdd fesul gwlad wreiddiol, gallwn rymuso siopwyr i gefnogi ffermwyr lleol a chryfhau’r sector amaethyddol yng Nghymru.”