Plaid Cymru’n galw am adolygiad brys i wasanaethau gofal llygaid

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynllun ar waith i sicrhau bod y cleifion gofal llygaid mwyaf brys yn cael eu gweld o fewn amserlenni derbyniol.

Mae ffigyrau newydd a gyhoeddwyd y mis hwn yn dangos bod un o bob dau glaf offthalmoleg risg uchel mewn perygl o 'niwed parhaol neu niwed sylweddol canlyniadol'. Mae hyn oherwydd nad ydynt wedi cael eu hapwyntiad claf allanol cyntaf o fewn yr amser targed.

Roedd amseroedd aros ar eu huchaf yn anterth y pandemig, ond dydyn nhw erioed wedi gwella i lefelau cyn y pandemig. Ym mis Mai 2023, roedd 52.5% o gleifion a ystyrir yn 'Ffactor R1 Risg i Iechyd' yn aros y tu hwnt i'r dyddiad targed ar gyfer apwyntiad cleifion allanol, sy'n cyfateb i dros 75,000 o gleifion. Mae hyn yn gynnydd o 1,300 ers y mis blaenorol.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Mabon ap Gwynfor AS:

“Mae’n amlwg nad yw Offthalmoleg wedi gallu gwella o’r pandemig, a gallai’r canlyniad fod yn ddinistriol i ormod o gleifion. Yn syml, nid yw'n ddigon da bod mwy nag un o bob dau glaf mewn perygl o golli eu golwg yn barhaol oherwydd na all Lywodraeth Cymru gael gafael ar amseroedd aros.

“Er mwyn dangos eu bod o ddifrif ynglŷn â gofal llygaid yng Nghymru, rhaid i ni weld cynllun gan Lywodraeth Cymru ar sut y maent yn bwriadu amgyffred yr achosion mwyaf brys ar y rhestrau aros hyn.

“Yn ogystal, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith i sicrhau bod targedau’n gyrru’r ymddygiad cywir, bod targedau'n cael eu monitro’n effeithiol, bod gan fyrddau iechyd yr adnodd i allu cyrraedd y targed, a bod camau adfer yn cael eu cymryd cyn gynted â phosibl i ofalu am y cleifion sydd wedi cael eu siomi gan y system. Mae angen i hyn gynnwys asesu’r mesurau a’r prosesau presennol, sy’n methu mwy na hanner y cleifion gofal llygaid risg uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd.”