Cofio Marcia Spooner

Mae Plaid Cymru wedi talu teyrnged i’n Cynghorydd Marcia Spooner a fu farw ar 29 Hydref 2023 yn dilyn salwch byr.

Roedd Plaid Cymru yn drist o glywed am farwolaeth sydyn Marcia Spooner, cynghorydd sir a chymuned yn Rhos, Castell-nedd Port Talbot.

Bu Marcia yn gweithio fel rheolwr swyddog i Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams. Cyn hynny bu’n gwasanaethu yn yr un rôl o dan Dr Dai Lloyd, cyn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros yr un rhanbarth.

Wrth dalu teyrnged i’w chydweithiwr, dywedodd Sioned Williams AS Gorllewin De Cymru,

“Roedd Marcia yn aelod arbennig ac annwyl o staff ac hefyd yn ffrind agos.

“Roedd hi hefyd yn Gynghorydd Sir a chymuned Plaid Cymru diwyd dros Rhos.

“Mae ein meddyliau ni a'n cydymdeimlad dwysaf gyda’i theulu ar yr adeg anodd yma. Rydym ni fel tîm yn torri'n calonnau. Bydd cymaint o bobl yn gweld ei heisiau, ym Mhlaid Cymru, yn ei chymuned ac wrth gwrs gan bawb oedd yn ei hadnabod.”

Meddai’r Cynghorydd Alun Llewelyn, Arweinydd Grwp Plaid Cymru ar gyngor sir Castell-nedd Port Talbot a’r Cynghorydd dros Cwmllynfell ac Ystalyfera,

“Byddwn i gyd yn gweld eisiau Marcia yn ddirfawr. Nid yn unig fel cynghorydd ac aelod gweithgar o Blaid Cymru ond fel rhan o’i chymuned.

“Rwy wedi adnabod Marcia ar hyd ei hoes ers ei phlentyndod yn Ystalyfera. Roedd yn Gynghorydd cydwybodol dros y Rhos ond hefyd yn berson annwyl, cyfeillgar a bywiog.

“Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf I’w gwr Simon, eu plant Ffion a Ciaran a’r wyron, ac i’w mam Maureen a’i brawd Stephen. Diolch i Marcia am bopeth a wnaeth, a braint oedd ei hadnabod.

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth MS,

“Ar ran Plaid Cymru, rwy’n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Marcia.

“Marcia oedd y gorau ohonom. Yn ffrind ffyddlon ac yn gydweithiwr cydwybodol, roedd Marcia yn ymroddedig i wasanaethu ei chymuned yn Rhos. Nid oedd hi byth yn oedi cyn mynd yr ail filltir i helpu unrhyw un oedd ei angen.

“Mae hon yn golled wirioneddol ofnadwy i deulu Plaid Cymru ac ardal Pontardawe. Mae ein meddyliau gyda’i theulu a’i hanwyliaid ar yr adeg drist hon.”