Caiff Corff Cyfathrebu newydd ei sefydlu er mwyn braenaru’r tir ar gyfer datganoli pwerau darlledu i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, 12fed Mawrth).

Yn ôl datganiad ysgrifenedig y llywodraeth, bydd y corff newydd yn gyfrifol am ‘archwilio cynlluniau ar gyfer fframwaith darlledu a chyfathrebu amgen’ mewn paratoad ar gyfer datganoli’r pwerau hynny i Gymru.

Bydd y Corff Cyfathrebu hefyd yn edrych ar ‘strwythur llywodraethiant effeithiol ar gyfer dyfodol S4C’ ynghyd â darlledwyr eraill, ystyried sut y gallai rôl Ofcom fod yn ‘cryfhau democratiaeth Cymru’ a chymryd ‘camau wedi’u targedu i wella atebolrwydd’ yn y maes.

Daw’r penderfyniad i sefydlu’r corff cynghorol newydd o ganlyniad i ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Ym mis Gorffennaf y llynedd, argymhellodd adroddiad annibynnol a luniwyd gan y ddarlledwraig Mel Dole a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones sefydlu corff darlledu i Gymru.

Yn ei adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni, galwodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru am ‘fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi, craffu ac atebolrwydd ym maes darlledu, a dylai gwaith cadarn barhau ar lwybrau posibl at ddatganoli’.

Cafodd y cyhoeddiad yn croesawu’n wresog gan Heledd Fychan AS, llefarydd diwylliant Plaid Cymru. Dywedodd:

“Dyma gam hanesyddol ymlaen tuag at ennill pwerau dros ddarlledu a chyfathrebu i Gymru. Heddiw, mae degawdau o waith ymgyrchu gan gynifer o bobl wedi dwyn ffrwyth gyda’r cyhoeddiad y caiff Corff Cyfathrebu a Darlledu ei sefydlu. Dim ond oherwydd dylanwad Plaid Cymru yn y Senedd y mae hyn yn digwydd, gan ddod ag uchelgais a thegwch i Gymru yn y meysydd polisi hyn sydd mor bwysig i’n holl genedl.

“Mae sefydlu’r corff newydd yn ymateb cadarnhaol ac o sylwedd i’r consensws eang bod y fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn ein methu – yn llesteirio bywyd democrataidd ein gwlad ynghyd ag anghenion a’n huchelgais ar gyfer y Gymraeg. Y corff newydd hwn fydd yn braenaru’r tir ar gyfer y cyfryngau y mae ar Gymru eu hangen, gan ein hamddiffyn rhag y bygythiadau a’r ymosodiadau parhaus ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus o du nifer o lywodraethau’r Deyrnas Gyfunol.”