Mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian MS wedi annog Llywodraeth Cymru i ohirio cyhoeddi ei Bil Cwricwlwm drafft newydd yng nghanol pryderon y gallai danseilio cynlluniau trochi iaith Gymraeg awdurdodau lleol, a chael goblygiadau dinistriol ar y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion.

Mae Ms Gwenllian yn galw am oedi cyn cyhoeddi er mwyn cael sgyrsiau priodol, i gynnwys amrywiol randdeiliaid perthnasol i benderfynu sut y gellir lliniaru'r goblygiadau negyddol posibl hyn ar ddarpariaeth Gymraeg.

Mae asesiad risg sy’n gysylltiedig â’r Bil Cwricwlwm newydd yn dweud y bydd gan gyrff llywodraethu ysgolion yn hytrach nag awdurdodau lleol rym dros wneud penderfyniadau dros bolisi iaith ysgolion pan fydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gyflwyno.

Dadleuodd Ms Gwenllian y byddai hyn yn gwrth-wneud ymdrechion gan awdurdodau lleol i gyrraedd nod tymor hir Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae gan Geredigion dros 80% o siaradwyr dwyieithog ymysg ei blant 7 oed, sy'n adlewyrchu llwyddiant ei chynllun trochi iaith Gymraeg yn ystod y cyfnod sylfaen.

Mae Plaid Cymru wedi codi'r mater gyda Gweinidog yr Iaith Gymraeg Eluned Morgan a gyda'r Gweinidog Addysg i sicrhau y bydd y Bil yn cryfhau sefyllfa'r Gymraeg, yn hytrach na'i gwanhau, ond mae'r Llywodraeth wedi penderfynu bwrw ymlaen i gyhoeddi'r Bil drafft beth bynnag.

Meddai Sian Gwenllian AS, Gweinidog Cysgodol Addysg, Y Gymraeg a Diwylliant,

“Mae angen gohirio'r Bil Cwricwlwm newydd hyd nes y gwneir asesiad trwyadl o'r effaith a gaiff ar addysg Gymraeg.

“Un elfen o’r ddeddfwriaeth newydd sydd wedi achosi pryder penodol yw ei bwriad i roi grym dros bolisi Cymraeg i gyrff llywodraethu unigol yn hytrach nag awdurdodau lleol.

“Byddai pob corff llywodraethu yn gallu penderfynu a ddylid dilyn polisïau trochi yn y Cyfnod Sylfaen, gan danseilio yn llwyr polisïau iaith cadarn llawer o awdurdodau lleol, ac yn ergyd ddifrifol i ddatblygiad addysg Gymraeg ledled Cymru.

“Mae angen mynd i'r afael â'r mater hwn yn briodol ac mae angen gwrando ar randdeiliaid yn ystod y broses hon, cyn cyhoeddi'r Bil drafft.

“Unwaith eto, rydym yn wynebu brwydr arall dros ein hiaith."