Data yn dangos y bydd incwm gwario gwirioneddol y bobl dlotaf yn cwympo o 11% hyd yn oed os bydd budd-daliadau yn cael eu huwchraddio’n unol â chwyddiant

Cyn Cyllideb yr Hydref, mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau yn annog cynnydd o £25 i fudd -daliadau, yn ogystal ag uwchraddio budd-daliadau yn unol â chwyddiant, a chadw’r clo triphlyg i bensiwn y wladwriaeth.

Galwodd llefarydd Plaid Cymru ar Waith a Phensiynau, Hywel Williams AS, mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol [Saesneg yn unig] Mel Stride AS, am “ddiwygiadau ymarferol yn syth er mwyn rhoi rhyddhad ariannol a meddyliol i filoedd o bobl yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cwympo trwy’r rhwyd nawdd cymdeithasol.”

Dywedodd fod yn “rhaid i’r Llywodraeth fynd y tu hwnt i godiadau chwyddiant a chynyddu gwerth budd-daliadau fel y gwnaethant yn ystod pandemig Covid-19”.

Tynnodd Mr Williams sylw at ddata’r Resolution Foundation yn dangos, hyd yn oed os bydd yr holl fudd-daliadau yn cael eu huwchraddio yn unol â chwyddiant, y gall incwm gwario gwirioneddol y bobl dlotaf gwympo o 11 y cant y flwyddyn nesaf, y cwymp mwyaf i’w gofnodi erioed fydd yn dileu pob twf mewn incwm a gronnwyd dros yr ugain mlynedd a aeth heibio.

Ysgrifenna Hywel Williams:

“Yn amlwg, aelwydydd ar incwm isel sy’n gorfod dwyn pen trymaf baich y cynnydd yng nghostau byw. Maent yn fwy tebygol o wario cyfran uwch o’u hincwm ar eitemau hanfodol, y mae eu prisiau wedi cynyddu ar gyfradd uwch. Amcangyfrifodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol fod chwyddiant ym mis Hydref 2022 yn 14% i aelwydydd tlotaf y DG o gymharu â 10% i’r cyfoethocaf.  

“Mae gan Gymru yn arbennig lefelau uwch o dlodi. Er enghraifft, gan Gymru y mae’r nifer uchaf o blant mewn tlodi incwm cymharol ar draws holl genhedloedd y DG, sef 34%. Ar begwn arall y sbectrwm oedran, mae bron i un o bob pump o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, gydag incwm yn crebachu mewn termau real wythnos ar ôl wythnos wrth i effeithiau chwyddiant barhau.

“Yn y cyd-destun hwn, byddai’n anfaddeuol felly i’r Llywodraeth wneud i ffwrdd â chefnogaeth i aelwydydd ar incwm isel. Yn hytrach na lleihau’r gwerth mewn termau real, neu gyfyngu mynediad at nawdd cymdeithasol, galwaf ar eich Llywodraeth i wneud y canlynol: 

“Darparu codiad yn syth o £25 i bob budd-dal sy’n destun prawf modd, gan gynnwys Budd-daliadau Cymynrodd. Nid oedd yn iawn i’r Llywodraeth wneud i ffwrdd a’r cynnydd gwreiddiol o £20 i Gredyd Cynhwysol, a dylid ail-gyflwyno hyn gydag £5 ychwanegol ar gyfer y cynnydd mewn costau byw. 

“Os bydd budd-daliadau yn cael eu cynyddu yn unol â chwyddiant yn unig, amcangyfrifir y gall incwm gwario gwirioneddol y bobl dlotaf gwympo o 11% y flwyddyn nesaf, y gostyngiad mwyaf a gofnodwyd erioed. Rhaid i’r Llywodraeth fynd y tu hwnt i godiadau chwyddiant a chodi gwerth budd-daliadau fel y gwnaethant yn ystod pandemig Covid-19. 

“Uwchraddio pob budd-dal yn unol â Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) mis Medi 2022. Dylai unrhyw gymdeithas barchus feddu ar system nawdd cymdeithasol sy’n cadw i fyny â chostau byw sylfaenol. Byddai codiad is na chwyddiant y flwyddyn nesaf yn gadael gwir werth y gefnogaeth sylfaenol i’r sawl sydd heb waith 16% yn is yn 2023-24 nag yn 2010-11, a fymryn yn is nag yn 1983-84. Byddai hyn yn annerbyniol. 

“Cadw’r Clo Triphlyg i Bensiwn y Wladwriaeth. Mae gwerth pensiynau gwladwriaeth y DG mewn termau real yn cymharu’n wael â gwledydd eraill yr OECD a rhaid eu cynyddu. Mae effaith y Clo Triphlyg yn gronnus ac felly mae o les i bawb yn y tymor hir. Yr oedd cadw’r Clo Triphlyg yn addewid ym Maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2019 ac yr wyf yn gobeithio y cadwch at yr addewid hwn yn Natganiad yr Hydref.

“Diwygiadau ymarferol yw’r rhain y gellir eu gwneud yn syth ac a fydd yn rhoi rhyddhad ariannol a meddyliol i filoedd o bobl yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cwympo trwy’r rhwyd nawdd cymdeithasol.

“Rwy’n gobeithio y gwnewch chi fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod y bobl dlotaf a mwyaf bregus yn derbyn y gefnogaeth briodol trwy’r argyfwng costau byw. Fy ngobaith yw y bydd datganiad hydref y Canghellor yn drugarog, ac yn gefnogol i’r sawl sy’n derbyn nawdd cymdeithasol.”