Gallai canfyddiadau’r pwyllgor “fod flynyddoedd i ffwrdd” – Adam Price AS

Bydd cyfarfod cyntaf ‘Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19’ ddydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023 wythnos ers i’r gwrandawiadau tystiolaeth cyntaf ddigwydd gyda thystion o Gymru, fel rhan o Ymchwiliad Covid y DU.

Wrth siarad cyn y cyfarfod cyntaf, dywedodd Adam Price AS, cynrychiolydd Plaid Cymru ar y pwyllgor:

“Dylid craffu ar benderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru, yng Nghymru. Nid yw’r hyn yr ydym wedi’i weld a’i glywed wythnos diwethaf yn Ymchwiliad Covid y DU wedi gwneud fawr ddim i brofi fel arall.

“Dogfennau ddim wedi cael eu darllen, cyngor ddim wedi eu cymryd, a strategaethau heb eu diweddaru ers dros ddegawd – mae’r hyn sydd wedi ei ddatgelu am ddiffyg parodrwydd pandemig Llywodraeth Cymru wedi bod yn frawychus. A dyw hyn ddim wedi crafu’r wyneb. Yn y diwrnod a hanner yn unig a roddwyd i ddim ond pump o chwaraewyr allweddol Cymru roi eu tystiolaeth, mae mwy o gwestiynau nag atebion.

“Er mai cylch gorchwyl y Pwyllgor Diben Arbennig yw edrych ar unrhyw fylchau a nodwyd yn Ymchwiliad Covid y DU, ni all fyth gwblhau ei waith tan ar ôl i Ymchwiliad y DU ddod i ben. Gallai hyn fod yn flynyddoedd i ffwrdd!

“Heb ymchwiliad Covid penodol i Gymru bydd gormod o wersi - cadarnhaol a negyddol - yn parhau heb eu dysgu a bydd gormod o gwestiynau yn mynd heb eu hateb. Nid yw’n rhy hwyr i Lywodraeth Cymru newid eu meddyliau ac agor eu hunain i graffu llawn drwy gynnal ymchwiliad Covid penodol i Gymru.”