Beirniadu Llafur a’r Torïaid am ‘balu eu pennau yn y tywod’ ar effaith Brexit

Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch effaith bosibl y defnydd arfaethedig o wiriadau llawn ar y ffin o ganlyniad i Brexit, sydd wedi eu clustnodi i gychwyn yn yr Hydref. Mae’r blaid yn rhybuddio y gallai’r gwiriadau hyn “waethygu chwyddiant bwyd ar adeg o galedi economaidd”.

 

Ers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, mae cartrefi wedi ysgwyddo cost sylweddol o £7 biliwn mewn costau bwyd ychwanegol, sy’n cyfateb i £250 y cartref. Yng ngoleuni’r costau cynyddol hyn, mae Plaid Cymru wedi galw am oedi cyn cyflwyno gwiriadau pellach i amddiffyn aelwydydd rhag mwy o galedi.

 

Dywedodd Hywel Williams AS, llefarydd y blaid ar Fasnach Ryngwladol, y dylai Llywodraeth y DU fod yn “bragmatig” er mwyn “diogelu cyllid pobl am ragor o ddifrod”.

 

Yn ogystal â galw am ohirio gwiriadau’r ffin, mae Plaid Cymru hefyd wedi annog llywodraeth y DU i wella prosesau ffiniau a thollau ar unwaith mewn porthladdoedd hanfodol fel Caergybi ac Abergwaun. Mae’r blaid yn argymell mabwysiadu system ffenestr sengl ar gyfer cofnodi data masnach a digido prosesau mewnforio ac allforio, yn unol â’r cynigion a gyflwynwyd gan Gomisiwn Masnach a Busnes y DU. Nod y mesurau hyn yw symleiddio masnach, lleihau cymhlethdodau gweinyddol, a chryfhau effeithlonrwydd symudiadau trawsffiniol.

 

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Plaid Cymru yn galw ar y DU ail-ymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau. Maen nhw’n dweud bod angen i’r Torïaid a’r Blaid Lafur “roi’r gorau i gloddio eu pennau yn y tywod” a chydnabod y niwed mae Brexit yn ei achosi.

 

Dywedodd Hywel Williams AS:

“Wrth i ni nesáu at ddyddiad cau’r hydref ar gyfer gwiriadau ffin Brexit llawn, rhaid i Lywodraeth y DU fod yn bragmatig ac ystyried yr effaith y byddant yn ei chael ar aelwydydd a busnesau.

 

“Ni allwn anwybyddu effaith bosibl y gwiriadau hyn, a allai waethygu chwyddiant bwyd ar adeg o galedi economaidd. Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol i warchod cyllid pobl rhag difrod ychwanegol a sicrhau dyfodol economaidd gwell i Gymru a’r DU.

 

“Mae’r Torïaid a’r Blaid Lafur unwaith eto yn methu dangos arweiniad ar gostau byw oherwydd ofn sôn am Brexit. Rhaid iddynt roi’r gorau i gloddio eu pennau yn y tywod a chydnabod yr effaith y mae’r rhwystrau masnach hyn yn ei chael ar brisiau bwyd a chostau busnes.”