Mae ymgyrch Plaid Cymru i ddod â phwerau dros ddarlledu adref i Gymru gam yn nes ar ôl i banel arbenigol newydd baratoi'r ffordd ar gyfer datganoli pwerau cyfathrebu a darlledu i Gymru gael ei gyhoeddi heddiw.

Bydd y panel arbenigol, sy'n cael ei sefydlu fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yn darparu argymhellion ac opsiynau i helpu i gryfhau cyfryngau Cymru, ac yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer fframwaith rheoleiddio effeithiol ac addas i'r diben i Gymru.

Bydd y panel yn cynghori ac yn darparu argymhellion ac opsiynau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r ymrwymiad i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.

Byddai cylch gwaith yr Awdurdod yn cynnwys anelu at gryfhau democratiaeth Cymru a chau'r diffyg gwybodaeth; dwyn ynghyd a chydlynu mewn ffordd strwythuredig ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru a datblygiadau arloesol i gefnogi'r Gymraeg yn y maes digidol megis amam.cymru; gwella amrywiaeth y cyfryngau a'r defnydd o'r Gymraeg ar bob platfform cyfryngau. Byddai hefyd yn gyfrifol am ddatblygu sylfaen dystiolaeth gref i gefnogi'r achos dros ddatganoli pwerau i Gymru.

Bydd y Panel Arbenigol yn cael ei gyd-gadeirio gan y darlledwr profiadol o Gymru Mel Doel a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Mae aelodau'r panel yn cynnwys:

Nia Ceidiog

Dr Llion Iwan

Arwel Ellis Owen

Ceri Jackson

Dr Ed Gareth Poole

Richard Martin

Geoff Williams

Shirish Kulkarni

Carwyn Donovan

Wrth ymateb i gyhoeddiad panel arbenigol newydd ar ddatganoli darlledu, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y celfyddydau a diwylliant, Heledd Fychan AS,

"Yn union fel y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, felly a ddylai'r penderfyniadau am faterion cyfathrebu a darlledu gael eu gwneud yma hefyd. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro byd dros ddatganoli darlledu i Gymru, ac mae ein hymgyrchu diflino wedi bod yn allweddol i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon heddiw.

"Mae cael ein Hawdurdod Darlledu a Chyfathrebu ein hunain mor bwysig er mwyn gallu gwneud cynnwys yn berthnasol i ni, ac mae'r panel arbenigol hwn yn gam pwysig i ffwrdd o'r dull presennol sy'n canolbwyntio ar Lundain. Mae gennym ein timau chwaraeon ein hunain, ein senedd ein hunain a'n hiaith ein hunain – mae'n gwneud synnwyr i gael ein platfform ein hunain ar gyfer hyn.

"Ni ddylem fod yn brwydro am ofod ar lwyfan y DU gyfan pan mai'r ateb yw cael ein cyfryngau datganoledig ein hunain. Rwy'n falch iawn bod Llafur bellach wedi cytuno o'r diwedd i gefnogi ein galwadau a rhoi'r camau pwysig hyn ar waith.

"Dywedodd yr Aelod Dynodedig Cefin Campbell:

“Mae gan hyn y potensial i fod yn ddatblygiad hanesyddol i Gymru, i roi hwb go iawn  i’n democratiaeth.  Rydym yn credu y dylai penderfyniadau am faterion darlledu a chyfathrebu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n democratiaeth genedlaethol ifanc, ein hiaith yn ogystal â bywyd cymunedol lleol yn ei holl amrywiaeth.

“Bydd sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu yn ein gwlad sy’n gallu gwarchod, arallgyfeirio a gwella ein platfformau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn gam hollbwysig ymlaen. Mae cyfryngau lleol a chenedlaethol bywiog yn hanfodol i adlewyrchu tapestri bywyd ledled y wlad – trafod, rhoi gwybodaeth a dathlu ein holl ddiwylliannau a’n cymunedau.

“Mae ein ffordd o weithio er budd y cyhoedd yng Nghymru yn gwbl groes i ffordd o weithio Llywodraeth y DU sy'n canolbwyntio ar Lundain ac ar wneud elw ar draul pawb a phopeth. Rydym yn credu mewn dyfodol lle ceir cyfryngau lluosog, democrataidd, wedi’u gwreiddio'n lleol sy'n gwella bywyd cenedlaethol Cymru.