“Bydd rhai o ymrwymiadau maniffesto allweddol Plaid Cymru nawr yn cael eu gweithredu.”

Mae Plaid Cymru wedi croesawu’n frwd gytundeb rhwng ei Harweinydd a’r Prif Weinidog fel llwybr at ‘Senedd fwy yn gwneud mwy o wahaniaeth er lles pobl Cymru’.

Mae diwygio’r Senedd yn ymrymiad allweddol o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mewn llythyr ar y cyd at bwyllgor o’r Senedd, datgana Adam Price AS a Mark Drakeford AS eu bod wedi cytuno ar becyn o ddiwygiadau.

Yn ôl eu cynllun, byddai’r newiadau yn eu lle erbyn yr etholiadau nesaf yn 2026, gyda nifer yr aelodau yn cynyddu i 96.

Cânt eu hethol drwy system gwbl gyfrannol- gan wneud Cymru y wlad gyntaf ym Mhrydain i ddiddymu’r system Cyntaf i’r Felin ar lefel seneddol. 

Wrth ymateb i’r llythyr ar y cyd, meddai Rhys ab Owen AS llefarydd Grwp Senedd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad,

“Mae’r cytundeb hwn yn hanesyddol. Mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer Senedd gryfach gyda mwy o gapasiti i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ledled ein gwlad gan roi hwb i’n democratiaeth – a’i wneud yn decach ac yn fwy cynrychioliadol.

“Bydd rhai o ymrwymiadau maniffesto allweddol Plaid Cymru nawr yn cael eu gweithredu. Bydd gennym Senedd gryfach gyda 96 o aelodau yn cael eu hethol drwy system bleidleisio etholiadol gyfrannol - yn gyfreithiol gytbwys o ran rhywedd a hynny erbyn yr etholiad nesaf yn 2026.

“Nid mater o fod eisiau rhagor o wleidyddion yw hwn. Mae’n fater o sicrhau fod ein Senedd ni yn addas i gynrychioli ein pobl ac adlewyrchu holl leisiau a dyheadau cymdeithas Cymru.”