Liz Saville Roberts AS yn galw am fwy o gefnogaeth i fusnesau bach yn dilyn sesiwn y comisiwn masnach 

Mae cwmni jin o Gymru heddiw wedi beirniadu Llywodraeth y DG am “gymryd arnynt mai hwy yw’r blaid i fusnesau bach” ac ar yr un pryd “wneud tro gwael â hwy”.

Yr oedd David Thomas, cyd-sylfaenydd y cynhyrchwyr jin o Sir Gaerfyrddin, Jin Talog, yn rhoi tystiolaeth i Gomisiwn Masnach a Busnes y DG a gadeiriwyd gan arweinydd Plaid Cymru Liz Saville Roberts AS, lle nododd enghreifftiau o gwsmer o Iwerddon fu’n rhaid talu €38 (£33) mewn taliadau  tollau a threthi cyn derbyn cynnyrch – sef bron i 100% cost yr archeb ei hun. Dywedodd Mr Thomas hefyd fod cargo i Iwerddon wedi croeso Môr Iwerddon bum gwaith cyn cyrraedd y cwsmer.

Mae’r Comisiwn Masnach a Busnes yn adolygu effaith cytundeb masnach a chydweithredu’r UE-DG, a ddaeth i rym ym mis Ionawr. Ymysg busnesau eraill a roes dystiolaeth yr oedd Fluorochem, cyflenwr cemegolion sydd â’i bencadlys yn Swydd Derby.

Dywedodd Ms Saville Roberts mai’r “neges glir” o’r sesiwn oedd nad “problemau cychwynnol” yw’r hyn sy’n wynebu busnesau bach ond yn hytrach “y nodweddion sy’n diffinio’r berthynas fasnachu newydd”.

Galwodd AS Dwyfor Meirionnydd ar Lywodraeth y DG i “roi cefnogaeth ychwanegol” i fusnesau bach ac i “wneud popeth yn eu gallu i liniaru rhai o’r rhwystrau masnach mwyaf dinistriol”.

Wrth siarad wedi’r sesiwn, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Efallai nad yw Brexit bellach yn y penawdau, ond mae busnesau bach wedi bod yn teimlo effaith economaidd rhwystrau dinistriol y Torïaid ers misoedd.

“Mae busnesau o sawl sector – o gemegolion i gwmni jin crefft Cymreig – wedi dweud wrth Gomisiwn Masnach a Busnes y DG heddiw eu bod eisoes yn ymdopi â chostau uwch a gwaith papur amhosib o araf a chymhleth. Y neges glir oedd nad problemau cychwynnol mo’r rhain: yn hytrach, maent yn nodweddion sy’n diffinio’r berthynas fasnachu newydd.

“Mae’r Toriaid wedi achosi difrod tymor-hir i fusnesau bychain Cymru. Mae dyletswydd arnynt yn awr i ddarparu cefnogaeth ychwanegol. Rhaid iddynt hefyd wneud popeth yn eu gallu i liniaru rhai o’r rhwystrau mwyaf dinistriol sy’n dod i ran busnesau wrth iddynt fasnachu â’n cymdogion agosaf.”

Wrth siarad ar ôl y sesiwn, ychwanegodd David Thomas o Jin Talog:
 
“Mae’r problemau a welwn yn fwy na phroblemau cychwynnol. Trwy osod y rhwystrau masnachu dinistriol hyn, mae Llywodraeth y DG wedi gwneud ein cynnyrch yn llai cystadleuol yn ein marchnad Ewropeaidd, sydd mewn gwirionedd wedi cau’r drws yn wyneb nifer cynyddol o gwsmeriaid Ewropeaidd.
 
“Mae’r tarfu hwn nid yn unig wedi effeithio ar ein gwerthiant ond hefyd ar ein cynhyrchu. Gyda mwyafrif ein mewngynhyrchion a’n nwyddau traul yn deillio o’r UE, mae ein costau a’n gwaith papur wedi cynyddu’n sylweddol ers mis Ionawr. Mae hyn yn faich sylweddol ar fusnes crefft.
 
“Mae’n sarhad llwyr i Lywodraeth y DG awgrymu fod modd gwneud iawn am bicil busnesau bach fel ein rhai ni trwy ennill marchnadoedd newydd ym mhen draw’r byd. Nid yn unig y mae daearyddiaeth syml yn golygu bod hyn yn afrealistig - mae’n hollol groes i’n gwerthoedd o gynaliadwyedd a chyfrifoldeb amgylcheddol. Mae’r gwerthoedd hyn yn cael eu rhannu gan ein cwsmeriaid.
 
“Hawdd iawn y gall y Toriaid gymryd arnynt mai hwy yw plaid busnesau bach - ond mewn gwirionedd, maent wedi gwneud tro sâl iawn â ni.”