Heddiw mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru ac ymgeisydd Etholiad Senedd ar gyfer Arfon, Siân Gwenllian, wedi nodi sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio tuag at ddarparu prydau ysgol am ddim i blant yng Nghymru, gan helpu i gau'r bwlch cyrhaeddiad a mynd i'r afael â thlodi plant.

Mae ffigurau gan y Grŵp Gweithredu Tlodi Plant (Child Poverty Action Group) yn dangos nad yw tua 70,000 o blant yng Nghymru sy'n byw o dan linell dlodi'r DU yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd.

Dywedodd Siân Gwenllian y byddai'r polisi'n canolbwyntio ar gefnogi ffermwyr a busnesau Cymru trwy hybu caffael lleol, ac y dylid ei gyflwyno trwy ymestyn cymhwysedd prydau ysgol am ddim i blant cynradd o aelwydydd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol. Byddai pob plentyn yn yr ysgol gynradd yn derbyn prydau ysgol am ddim cyn diwedd tymor cyntaf Plaid Cymru mewn llywodraeth.

Dywedodd Siân Gwenllian:

“Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn her go iawn yng Nghymru. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cychwyn ar y gwaith pwysig o gau'r bwlch hwn gan ehangu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, gan ddechrau gydag ymestyn cymhwysedd i bob plentyn cynradd o aelwydydd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol.

“Erbyn diwedd tymor cyntaf llywodraeth Plaid, byddem yn ymestyn y cymhwysedd hyd yn oed yn fwy trwy gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, gan fynd ymhellach nag a gafodd unrhyw lywodraeth Lafur erioed.

“Gyda bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi a’r Llywodraeth Lafur ddiwethaf wedi dileu eu targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r methiant hwn.

“Gall Cymru ddysgu gan genhedloedd bach eraill fel y Ffindir a Sweden sy’n rhoi pwyslais ar Brydau Ysgol Rydd fel buddsoddiad mewn dysgu effeithiol a datblygiad cynnar plant.

“Byddai cynllun prydau ysgol am ddim Plaid Cymru hefyd o fudd i’r gymdeithas ehangach, gan roi ffocws ar gefnogi ffermwyr a busnesau Cymru trwy hybu caffael lleol, a hyrwyddo buddion cynnyrch maethlon, cartref o ran iechyd, yr economi a’r amgylchedd.”