Bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn “ymrwymo i’r nod o ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd” – Arweinydd Plaid Cymru Adam Price

Bydd Awdurdodau Lleol Plaid Cymru yn ymrwymo i’r nod o ymestyn Prydau Ysgol Rhad ac Am Ddim i gynnwys disgyblion ysgolion uwchradd yn ystod tymor nesaf y cyngor, meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS.

Roedd Adam Price yn siarad cyn ei brif araith yng Nghynhadledd Wanwyn ei blaid yng Nghaerdydd y penwythnos hwn.

Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i £200m i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd – a disgwylir i’r prydau ddechrau gael eu cyflwyno ym mis Medi.

Fodd bynnag, fe gyhoeddodd Mr Price heddiw y bydd ei blaid yn “mynd â’r polisi ymhellach” ac y byddai cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn “ymrwymo i osod y nod ac yn dechrau cynllunio ar unwaith” i ymestyn Prydau Ysgol Rhad ac Am Ddim i holl ddisgyblion ysgolion uwchradd o fewn y pum mlynedd nesaf.

Wrth fyfyrio ar Gymru wedi’r pandemig ac edrych ymlaen at etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai, mae disgwyl hefyd i Mr Price dalu teyrnged i gynghorau a chynghorwyr dan arweiniad Plaid Cymru sy’n “adeiladu’r genedl o’r gwaelod i fyny”.

Bydd Arweinydd Plaid Cymru hefyd yn ailddatgan ei undod ef a’i blaid â phobl yr Wcrain.

Wrth siarad ar yr addewid i ymestyn prydau ysgol am ddim, bydd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS yn dweud:

“Hanner ffordd drwy’r Senedd ddiwethaf fe benderfynon ni wneud prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn brif flaenoriaeth i ni. Dyma’r ffordd orau, o fewn grymoedd cyfredol y Senedd, y gallem ni wneud gwahaniaeth a dechrau dileu tlodi plant yng Nghymru, sy’n effeithio ar draean o’n plant.

“Mae cael gwared ar ddyled arian cinio ac chael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â chael cinio am ddim yn golygu bod plant yn cael pryd o fwyd poeth, iach yn ystod cam ffurfiannol yn eu datblygiad – all plant sydd eisiau bwyd ddim dysgu na chyflawni eu gwir botensial.

“Dim ond achos Plaid Cymru y bydd Prydau Ysgol Am Ddim yn digwydd – gyda’n gilydd, rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

“Rydym nawr yn bwriadu mynd â’r polisi ymhellach. Gallaf gyhoeddi heddiw mai rhan allweddol o’n harlwy yn yr ymgyrch etholiad cyngor sydd ar y gweill yw y bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i osod y nod ac yn dechrau cynllunio ar unwaith i ymestyn Prydau Ysgol am Ddim i bob disgybl ysgol uwchradd o fewn y pum mlynedd nesaf.”

Mae disgwyl i Adam Price ychwanegu:

“Trwy Brydau Ysgol am Ddim i bawb byddwn yn dechrau creu Cymru sy’n rhydd o dlodi. Trwy ein Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol byddwn yn creu Cymru sy’n rhydd o wewyr mewn henaint. Trwy reoli rhenti a hawl i dai byddwn yn creu Cymru sy’n rhydd o ddigartrefedd. A thrwy ddysgu cynnar a gofal plant o ansawdd uchel, yn ddwyieithog, ac yn rhad ac am ddim, byddwn yn adeiladu Cymru lle gall pob plentyn gyraedd eu llawn botensial.

“Dyma pam mae’r etholiadau lleol mor bwysig. Mae pob cynghorydd Plaid a etholwyd, pob cyngor Plaid a ffurfiwyd, yn adeiladu’r genedl o’r gwaelod i fyny.