‘Trychineb’ system fewnfudo wedi Brexit yn arwain at alwadau am ddatganoli polisi mudo datganoledig

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a’u llefarydd ar Faterion Cartref, Liz Saville Roberts AS, heddiw (Llun, 27 Medi) wedi beirniadu cynllun Llywodraeth y DG i roi fisas gwaith tri-mis i hyd at 5,000 o yrrwr HGV a 5,500 o weithwyr dofednod, gan ddweud “y dylai gweithwyr allweddol hanfodol fod am oes – nid dros y Nadolig yn unig.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan fod yr argyfwng presennol yn y gadwyn gyflenwi yn “datgelu trychineb system fewnfudo’r Torïaid wedi Brexit”, gan ail-adrodd galwad ei phlaid i ychwanegu gyrwyr HGV at y Rhestr Prinder Galwedigaethau. Byddai gwneud hynny yn hwyluso ffordd i gwmnïau logi gyrwyr o dramor hyd nes y bydd yr argyfwng wedi ei ddatrys.

Dywedodd Ms Saville Roberts na fydd “chwarae o gwmpas ar ymylon system sydd yn ei hanfod yn afresymol” yn ddigonol yn y tymor hir, a dywedodd fod yn rhaid datganoli pwerau dros bolisi mudo i Gymru.

Dywedodd y byddai system fewnfudo ffederal yn caniatáu i Gymru “osod ein cwota mudo ein hunain yn ôl ein hanghenion ein hunain” a galwodd am greu Gwasanaeth Cynghori Cymreig ar Fudo i “gau bylchau sgiliau a phrinderau a grëwyd gan system fewnfudo drychinebus y Torïaid wedi Brexit”.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Mae argyfwng cynyddol y gadwyn gyflenwi yn datgelu trychineb system fewnfudo’r Toriaid wedi Brexit. Arweiniodd blynyddoedd o rethreg wenwynig gwrth-fewnfudwyr wedi at un o’r systemau mewnfudo mwyaf cyfyng yn Ewrop, sy’n golygu y bydd angen mwy o lawer na rhyw bwt o fisa tri-mis i argyhoeddi gweithwyr i ddod yma i roi trefn ar ein llanast. Dylai gweithwyr allweddol hanfodol fod am oes - dim dim ond dros y Nadolig.

“Mae’n hollol amlwg fod yn rhaid diwygio’r Rhestr Prinder Galwedigaethau i gynnwys gyrwyr HGV. Ond fydd chwarae o gwmpas ar ymylon system sydd yn ei hanfod yn afresymol ddim yn ddigon yn y tymor hir. Yn ogystal â gwella tâl ac amodau i weithwyr allweddol, mae Plaid Cymru wedi bod o blaid system fisa ers amser i hyrwyddo ein gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG a chefnogi’r sector preifat i ddenu gweithwyr gyda sgiliau uchel o bedwar ban byd. Mae mwy o angen nag erioed am hyn yn awr.

“Byddai system fewnfudo ffederal yn caniatáu i Gymru sefydlu ein cwota mewnfudo ein hunain yn ôl ein hanghenion ni. Trwy sefydlu Gwasanaeth Cynghori Cymreig ar Fudo, byddai modd i ni gau bylchau sgiliau a phrinder a grëwyd gan system fewnfudo’r Toriaid wedi Brexit a sicrhau bod Cymru yn parhau yn genedl groesawus i bobl sydd am gyfrannu i gymdeithas Cymru.”