Mae arweinwyr y ddwy brif blaid sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru wedi cyhoeddi sefydlu fforwm newydd i dyfu’r achos o blaid annibyniaeth

Bydd y Fforwm yn ymgynghori, ymchwilio a datblygu corff newydd o waith arloesol i adeiladu “pont o syniadau i’r dyfodol.” Bydd Plaid Cymru a Phlaid Werdd Cymru yn ymgysylltu’n eang, gan weithio gyda’i gilydd i adeiladu’r achos economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o blaid annibyniaeth i Gymru.

Wrth gyhoeddi sefydlu ‘Fforwm Dyfodol Cymru’ yng Nghynhadledd Flynyddol y blaid, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod hyn yn dystiolaeth bellach o “agenda wirioneddol o estyn allan i eraill ar draws ffiniau pleidiol, i ddal dwylo a chanfod llwybr ar y cyd i annibyniaeth fydd yn sicrhau buddiannau gwirioneddol i bawb o’n pobl.”

Yr amcan yw cynhyrchu canlyniadau fydd yn ysbrydoledig ond wedi eu gwreiddio mewn tystiolaeth a dadleuon cadarn gan gefnogi gwaith grwpiau eraill. Bydd y prosiect Fforwm Cymru’r Dyfodol yn canolbwyntio ar bynciau megis:

  1. Gosod fframwaith ar gyfer dadleuon ac ymchwil economaidd ar gyfer Cymru annibynnol, gan roi sylw dyledus i syniadau economaidd newydd, gwerth amgylcheddol ac amcanion lles;
  2. Creu cynllun economaidd newydd ar gyfer Cymru annibynnol mewn gwahanol amgylchiadau, risgiau a chyfleoedd gwleidyddol;
  3. Modelu effaith macro-economaidd Cymru annibynnol ar ystod o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhagolygon twf GDP a gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol dros y 15 mlynedd gyntaf;
  4. Ystyried sut y gall Cymru annibynnol annog cyfuniad cyfoethocach o fodelau busnes ymarferol i greu gwerth amgylcheddol a chyhoeddus;
  5. Creu dulliau cyllidol newydd ac uchelgeisiol i ariannu buddsoddiad mewn dyfodol ynni newydd i Gymru ac i daclo newid hinsawdd. 

Dywedodd Adam Price Arweinydd Plaid Cymru:

“Bydd Fforwm Dyfodol Cymru yn sicrhau fod yr achos o blaid annibyniaeth i Gymru yn parhau i dyfu, yn economaidd ac yn amgylcheddol.

“Mae’r ddwy blaid yn cydnabod yr angen i archwilio’r cwestiynau mawr ynghylch annibyniaeth mewn mwy o fanylder, gan gynnwys y cwestiwn canolog o sut y byddai economi newydd Gymreig yn gweithio. Mewn cyfnodau heriol, gall gweithio gyda’n gilydd droi’r trai. Ein hamcan yw adeiladu hyder mewn dyfodol annibynnol a llewyrchus i Gymru. 

“Os ydym am ennill annibyniaeth i Gymru mae angen cynghrair mor eang a phosib o bobl sy’n rhannu’r weledigaeth o genedl sy’n deg, cynhwysol, amrywiol a gwyrdd. Mae Fforwm Dyfodol Cymru yn gam arall tuag ar wireddu’r weledigaeth honno a sicrhau y bydd Dyfodol Cymru yn nwylo Cymru. 

"Rwy’n credu’n gryf mewn agenda o estyn allan i eraill ar draws ffiniau pleidiol i uno dwylo a chanfod llwybr ar y cyd i annibyniaeth fydd yn sicrhau buddiannau gwirioneddol i bawb o’n pobl.” 

Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru:

“Rwy’n gobeithio y bydd amcanion Fforwm Dyfodol Cymru - i ddatblygu cynlluniau economaidd ac amgylcheddol ar gyfer Cymru annibynnol - yn argyhoeddi, ysbrydoli a chyffroi nifer o bobl ledled y wlad y gellir gwireddu’r weledigaeth honno. 

“Gan weithio gyda’n gilydd, gallwn ddangos ffordd amgen obeithiol a chadarnhaol i agenda dinistriol y Toriaid yn San Steffan sy’n niweidio’n planed a’i phobl. 

“Wrth i fwy a mwy o bobl gael eu hargyhoeddi gan y syniad o annibyniaeth fel modd o sicrhau dyfodol gwyrddach a thecach, mae’r Blaid Werdd yn edrych ymlaen at weithio gyda Phlaid Cymru i gwblhau’r ymchwil pwysig ac angenrheidiol hwn i sicrhau fod yr achos o blaid Cymru’n sefyll ar ei thraed ei hun yn fwy grymus nag erioed o’r blaen.”