Wrth gofio llofruddiaeth George Floyd flwyddyn yn ol i heddiw, mae Plaid Cymru yn ailddatgan ein hymrwymiad i ddod ag anghyfiawnder hiliol a hiliaeth strwythurol i ben yng Nghymru a gweddill y byd.

Mae bywydau pobl dduon yn bwysig o hyd.

Ac nid yw Cymru wedi'i heithrio rhag hiliaeth strwythurol o'r fath.

Mae anghydraddoldebau amlwg o hyd ym maes iechyd, cyflogaeth, system gyfiawnder ac addysg i bobl dduon a phobl o liw yng Nghymru - yn ôl yr adroddiad gan Ganolfan Lywodraethiant Cymru, mae gan Gymru gyfradd garcharu sy'n fwy anghymesur yn hiliol na Lloegr, sydd ei hun yn fwy anghymesur yn hiliol hyd yn oed na'r Unol Daleithiau.

Os ydym wir yn credu bod Black Lives Matter, mae'n rhaid i ni gydnabod a mynd i'r afael â hiliaeth strwythurol yma yng Nghymru hefyd.

O sicrhau gwell cynrychiolaeth ym mywyd cyhoeddus Cymru, sicrhau bod lleisiau amrywiaeth pobl dduon a phobl o liw yn cael eu cynrychioli a'u gweld ym mhob llwybr o fywyd cyhoeddus, gwella o fewn y cwricwlwm newydd, a diwygio'r system gyfiawnder yma yng Nghymru - mae'n rhaid i ni i gyd gwneud cymaint yn well.

Bydd Plaid Cymru yn ymgyrchu i sicrhau bod Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru yn cael ei weithredu - gan symud ymlaen adroddiad manwl ac argymhellion yr Athro Ogbonna ar gyfer Llywodraeth Cymru. Byddwn yn mynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad addysg rhwng plant o wahanol gefndiroedd cartref - ac yn eiriolwr i weithredu argymhellion adroddiad Charlotte Williams ar Gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a Cynefin yn y Cwricwlwm Newydd. Mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol, byddwn yn ymgyrchu i gyhoeddi data ethnigrwydd mewn perthynas â bwlch cyflog, etholiadau, penodiadau cyhoeddus a chanlyniadau iechyd, yn ogystal â gwella categoreiddio ethnigrwydd wrth gipio data cyrff cyhoeddus Cymru.

Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i roi diwedd ar anghyfiawnder hiliol a hiliaeth strwythurol yng Nghymru a gweddill y byd -  am byth.