Plaid Cymru yn galw am rybuddion iechyd ar gynnyrch sy’n achosi’r niwed mwyaf i’n planed

Mae Delyth Jewell AS, llefarydd  Plaid Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, wedi galw am roi Rhybuddion Iechyd Byd-eang ar gynnyrch nad ydynt yn dod o ffynonellau moesegol.

Mae'r galwadau wedi'u gwneud cyn Diwrnod Go Green ar 25 Mehefin 2021, a'r ffocws eleni ar fynd i'r afael â dad-goedwigo trofannol. Mae Mae’r blaned yn colli ardal o goedwig sy'n cyfateb i naw gwaith maint Cymru bob blwyddyn, a achosir hyn gan y galw anghynaladwy am gynnyrch bob dydd, fel olew palmwydd, coffi a phapur.

Y cynnig yw rhoi Rhybuddion Iechyd Byd-eang ar goffi a siwgr nad ydynt yn Fasnach Deg, ac olew soi a phas nad ydynt yn dod o ffynonellau moesegol.

Yn y Senedd yr wythnos hon, galwodd Ms Jewell AS ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am y camau y bydd yn eu cymryd i fyrhau cadwyni cyflenwi yn ei pholisi caffael ei hun.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Newid Hinsawdd, Delyth Jewell AS,

“Byddem yn disgwyl rhybudd ar unrhyw gynnyrch a fyddai'n achosi niwed i'n hiechyd – felly pam ddim ar gyfer iechyd ein planed?

“Y syniad o'r Rhybuddion Iechyd Byd-eang fyddai dynwared y rhybuddion iechyd ar becynnau sigaréts – a phwysleisio bod bwyta cynhyrchion penodol yn niweidio ysgyfaint y blaned yn lle achosi clefyd i ysgyfaint un person.

“Efallai fod dad-goedwigo byd-eang yn swnio fel rhywbeth sy'n bell i ffwrdd, ond mae'r blaned yn colli ardal o goedwig sy'n cyfateb i naw gwaith maint Cymru bob blwyddyn, oherwydd ein defnydd o olew palmwydd, soi, coffi, y papur yr ydym yn ysgrifennu ag ef, a'r pren yr ydym yn adeiladu gydag ef.

“Fel man cychwyn, gellid rhoi Rhybuddion Iechyd Byd-eang ar goffi a siwgr nad ydynt yn Masnach Deg, ac olew soi a phas nad ydynt yn dod o ffynonellau moesegol.”