“Mae’r ffiasgo cyflog GIG hwn yn enghraifft o roi gydag un llaw, a mynd â’r llall” – Rhun ap Iorwerth AS

Heddiw, mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd Rhun ap Iorwerth AS wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS i ofyn am eglurhad a fydd holl weithwyr y GIG ar £9.50 yr awr yn derbyn y codiad cyflog o 3% a gyhoeddwyd fis diwethaf.

Ym mis Ebrill 2021, rhoddwyd cynnydd mewn cyflog i'r Cyflog Byw i'r gweithwyr GIG â'r cyflog isaf. Ar 21 Gorffennaf, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd godiad cyflog o 3% ar gyfer gweithwyr y GIG. Er y cadarnhawyd wedyn bod y ffigur a ddyfynnwyd o £10.18 yr awr yn anghywir, mae'r datganiad diwygiedig yn dal i ddarllen "mae hyn yn golygu ein bod ni [Llywodraeth Cymru] wedi mynd yn uwch na'r argymhelliad Cyflog Byw £ £9.50 yr awr" sy'n awgrymu y byddai'r rhai ar £9.50 yn cael y codiad cyflog a addawyd.

Fodd bynnag, cadarnhaodd llythyr gan Eluned Morgan at Aelodau'r Senedd ar 30 Gorffennaf y byddai cyflogau cychwynnol ar gyfer y rhai â'r cyflogau isaf yn parhau i fod yn £18,576 y flwyddyn - neu £9.50 yr awr.

Heddiw, mae Mr ap Iorwerth wedi ysgrifennu at Ms Morgan yn gofyn am eglurhad ar y pwynt hwn, gan atgoffa'r Gweinidog “nid yw gwerthfawrogi sgiliau ac ymrwymiad y gweithlu erioed wedi bod yn bwysicach.”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae’r ffiasgo cyflog GIG hwn yn enghraifft o roi gydag un llaw, a mynd â’r llall.

“Yn gyntaf, addawyd codiad cyflog o 3% i staff ein GIG, a bydd y rhai ar y Cyflog Byw yn cael eu codi £10.18 yr awr. Nesaf, rydym yn dysgu nid yn unig bod y £10.18 yn anghywir, ond mae’n bosibl na fydd y rhai sydd ar y cyflog isaf yn cael codiad cyflog o gwbl.

“Bydd hyn yn ergyd enfawr i’n staff sy’n gweithio’n galed yn y GIG ac mae’n rhaid i’r llywodraeth egluro sut y daeth y datganiadau gwallus hyn i’w gwneud.

“Ni fu gwerthfawrogi sgiliau ac ymrwymiad y gweithlu erioed mor bwysig, a dyna pam yr wyf wedi awgrymu Llywodraeth Cymru i anrhydeddu’r addewid codiad cyflog gwreiddiol o 3% a wnaed ar Gorffennaf 21ain.”