Mae Plaid Cymru wedi ymateb i'r data diweddaraf ar absenoldebau staff y GIG

Mae’n rhaid i wella amodau gwaith gweithwyr iechyd a gofal ar ôl y pandemig fod yn rhan o brosiect ehangach i roi chwarae teg i'w holl weithwyr, mae Plaid Cymru wedi dweud.

Mae ystadegau newydd yn dangos fod cyfraddau absenoldeb o fewn y GIG wedi bod yn codi'n araf ers 2018, ac wedi cynyddu'n sylweddol o fis Ebrill 2020 yn ystod y pandemig. Datgelodd yr ystadegau hefyd fod y gyfradd absenoldeb salwch uchaf o 8.4% ymhlith staff Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, sy'n dod ymysg adroddiadau o flinder a straen, a phroblemau logisteg yn wynebu’r gwasanaeth a'i staff.

Galwodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS ar Lywodraeth Cymru i "gytuno i gyflogau uwch a gwell amodau gwaith" ac i weithredu ar alwadau undeb am gymorth lles ychwanegol i staff er mwyn gwella cyfraddau absenoldeb.

Nododd Mr Ap Iorwerth hefyd y dylai newidiadau o'r fath fod yn "rhan o brosiect ehangach i wella'r sector iechyd a gofal yn ddramatig fel cyflogwr", ac y dylid rhoi chwarae teg i "ei holl weithwyr".

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS,

"Mae'n amlwg fod y gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng mewn sawl rhan o Gymru, a bod y pandemig wedi effeithio arnynt yn sylweddol. Mae absenoldebau staff ar eu lefel uchaf erioed, gyda blinder a straen yn gyffredin a diffyg cefnogaeth ar gael.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno i gyflogau uwch a gwell amodau gwaith i sicrhau bod gweithwyr yn medru parhau i weithio’n effeithiol a bod lefelau staff yn aros yn ddigon uchel. Dylai’r llywodraeth hefyd gweithredu ar alwadau gan undebau am gymorth lles ychwanegol.

"Mae'n rhaid i hyn fod yn rhan o brosiect ehangach i wella'r sector iechyd a gofal yn ddramatig fel cyflogwr, fel bod chwarae teg yn cael ei roi i bob gweithiwr."