Gyda dadl San Steffan dros wadu biliynau o arian HS2 oddi wrth Gymru ar chwal, beth am atgoffa'n hunain o honiadau amheus y Torïaid.

Mae Plaid Cymru eisioes wedi dadlau fod £5 biliwn yn ddyledus i Gymru fel swm canlyniadol Barnett o brosiect HS2. Er iddo gael ei ddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr, ni fydd un modfedd o’r rheiliau newydd yn cael ei adeiladu yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi dadlau’n gyson y byddai’r cysylltiad newydd yn Crewe yn torri amseroedd teithio rhwng Gogledd Cymru a Llundain, a fod yr elw yma i Gymru yn cyfiawnhau ei ddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr.

Gydag adroddiadau’n awgrymu fod y rhan yma o’r prosiect wedi ei ddileu, mae dadl y Ceidwadwyr dros wrthod cyllid i Gymru wedi diflannu. Isod rydym wedi manylu’r nifer o honiadau amheus mae’r Ceidwadwyr wedi gwneud am fanteision llinell HS2 i Gymru…

Rishi Sunak, Prif Weinidog

Ym mis Ebrill, dywedodd Sunak wrth ITV News nad oedd o am i Gymru dderbyn biliynau mewn symiau canlyniadol Barnett yn deillio o HS2, gan ddadlau yn hytrach y bydd y prosiect “yn dod â buddion i bobl Cymru, yn enwedig y rhai yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru.”

Wrth siarad â WalesOnline ym mis Gorffennaf, gwnaeth y Prif Weinidog yr un ddadl: “Rwy’n meddwl y bydd pobl yn y gogledd yn elwa o HS2 a byddwch yn gweld hynny mewn amseroedd teithio llai i Lundain ac i fannau eraill ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i bobl gydnabod hynny. Bydd pobl yng Ngogledd Cymru yn elwa o HS2 yn amlwg iawn gyda llai o amser teithio.” Tybed wnaiff y Prif Weinidog ddefnyddio ei araith gynhadledd yn awr i amlinellu pa fanteision y gall Cymru eu disgwyl yn absenoldeb llinell Crewe?

David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrth ITV News ym mis Hydref 2022 fod y prosiect “yn mynd i fod o fudd i Gymru, mae’n mynd i fod o fudd i bobl yng Ngogledd Cymru a fydd yn elwa o fynediad gwell yn Crewe i Lundain…Mae hefyd yn mynd i fod o fudd i gwmnïau ledled Cymru sydd yn bwydo i mewn i’r gadwyn gyflenwi, gan gynnwys un cwmni mawr yn fy etholaeth fy hun.” Gydag ail ran prosiect HS2 bellach ar y domen sgrap, bydd cwmnïau Cymreig unwaith eto’n cael eu gadael mewn limbo gan Lywodraeth y DU.

Robert Buckland, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Ym mis Hydref 2022, dywedodd Buckland wrth Y Byd yn ei Le “Bydd rhedeg HS2 i Crewe yn ganolbwynt trafnidiaeth o bwys…dwi’n meddwl bod y setliad yn hollol iawn. Mae Crewe o fewn ychydig filltiroedd i ogledd Cymru, mae’n mynd i fod yn gwasanaethu pobl gogledd Cymru yn wych.” Heb unrhyw draciau wedi’u hadeiladu yng Nghymru, a dim cyfnewidfa HS2 gerllaw, efallai y gallai’r cyn Ysgrifennydd Gwladol esbonio i bleidleiswyr sut y bydd pobl gogledd Cymru yn cael eu gwasanaethu gan y prosiect ar ei newydd wedd…

Virginia Crosbie, AS Ynys Môn

Mewn sesiwn o Gwestiynau Trafnidiaeth ym mis Tachwedd 2022, gofynnodd Crosbie am fanteision HS2 a honnodd fod “y llywodraeth wedi ymrwymo i codi’r gwastad ac mae hynny’n golygu gwella cysylltedd trafnidiaeth i’m hetholwyr yn Ynys Môn.” Tybed yw’r Llywodraeth yn dal wedi ymrwymo i godi’r gwastad yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos yma?

Sarah Atherton, AS Wrecsam

Mewn blog ar ei gwefan yn 2020, dywedodd Atherton: “Mae’n hanfodol i ddatblygiad gogledd Cymru fod cynlluniau ar gyfer gwasanaeth rheilffordd cyflymach ei hun bellach wedi’u cynnwys yn y gwaith o gwmpasu a chynllunio High Speed North. Mae hynny'n dechrau nawr trwy sicrhau bod Hyb Crewe wedi'i ffurfweddu'n unol â hynny o fewn HS2. Ar hyd y llinell, disgwyliaf i hyn arwain at gysylltiadau rheilffordd gwell i Gaer, Wrecsam, Llandudno a Chaergybi. Am y rhesymau hyn yr wyf yn cefnogi’r prosiect HS2.” A fydd AS Wrecsam nawr yn ymuno â galwadau Plaid Cymru am ddatganoli pwerau dros y rheilffyrdd, er mwyn i gymunedau Wrecsam, Llandudno a Chaergybi gael y cysylltiadau rheilffordd maent yn haeddu?

Robin Millar, AS Aberconwy

Mewn dadl ym mis Tachwedd 2022, dywedodd Millar fod “dynodi HS2 Cymru a Lloegr yn dibynnu ar fuddsoddiad yn y cysylltiadau rhwng Crewe a gogledd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau yn erbyn hynny, ac wedi hawlio amcan o £5 biliwn fel swm canlyniadol Barnett ar gyfer buddsoddi yn Lloegr lle nad yw’r buddion wedi’u gwireddu yng Nghymru. Gall yr honiad hwnnw gael ei wrthbrofi’n iawn ar sail budd-daliadau i ogledd Cymru.” Efallai y bydd AS Aberconwy am ddiweddaru ei ddadl yn dilyn cynhadledd ei blaid yr wythnos yma…

Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd

I’r gwrthwyneb, mae arweinydd y Torïaid Cymreig wedi adleisio galwadau Plaid Cymru i Gymru dderbyn cyllid canlyniadol o HS2 ym mis Ionawr, ond cafodd ei wrthod gan Lywodraeth y DU.

Erbyn yr wythnos hon, mae’n debyg bod Mr Davies wedi gwneud tro pedol llwyr, gan honni bod y mater “uwchlaw [ei] raddfa gyflog.”

Y tu hwnt i bob amheuaeth, mae cyhoeddiad yr wythnos yma wedi dinistrio’r honiad y bydd HS2 byth o fudd i Gymru. Unwaith eto, mae addewidion y Ceidwadwyr i bleidleiswyr yng Nghymru yn lludw.