Angen pecyn cynaliadwy o gymorth i helpu pob cartref i ymdopi’r gaeaf hwn
Ben Lake AS yn ymateb i gyhoeddiad cyfraddau llog
Mae’r Deyrnas Unedig eisoes mewn dirwasgiad a allai fod yr hiraf erioed.
Byddai toriadau i wasanaethau cyhoeddus yn gwneud sefyllfa boenus yn waeth i filiynau.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae’n newyddion pryderus bod Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog o 0.75 pwynt canran heddiw – y cynnydd unigol mwyaf ers 1989.
“Bydd hyn yn rhoi straen pellach ar aelwydydd, ac yn gweld cyfraddau morgais yn codi eto.
“Dylai’r Canghellor osgoi’r demtasiwn o weithredu rownd arall o doriadau i wasanaethau cyhoeddus mewn ymateb i’r datblygiad difrifol hwn. Maent yn barod dan bwysau arthuthrol.
“Yn hytrach, dylai wrando ar rybudd y Banc bod y DU eisoes mewn dirwasgiad, a defnyddio’r gyllideb sydd ar ddod i osod pecyn cynaliadwy o gymorth i helpu pob cartref i ymdopi’r gaeaf hwn.”