Gall dull gweithredu Cymru’n un heddlu feithrin diwylliant plismona gwell yng Nghymru

Gall creu Llu Heddlu Cymru Gyfan helpu i adennill ymddiriedaeth a meithrin diwylliant gwell mewn Plismona yng Nghymru yn dilyn honiadau o hiliaeth, ‘misogyny’, a homoffobia o fewn Heddlu Gwent, meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS.

Gallai disodli’r pedwar heddlu presennol gyda dull gweithredu Cymru’n un heddlu arwain at “newid cadarnhaol mewn canlyniadau i ddioddefwyr a meithrin diwylliant plismona newydd yn seiliedig ar barch a chynhwysiant.”

Arweiniodd ailstrwythuro tebyg yn yr Alban, lle cafodd yr holl heddluoedd eu huno yn 2013, at newid cadarnhaol ar ôl heriau cychwynnol.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS:

“Mae’r honiadau a wnaed yn erbyn rhai swyddogion o fewn Heddlu Gwent yn peri pryder mawr.

“Dylai swyddogion heddlu fod y tu hwnt i waradwydd bob amser ac mae honiadau fel y rhain yn tanseilio gwaith caled y gwasanaethau brys sy’n gweithio ddydd a nos i gadw ein cymunedau’n ddiogel.

“Gall Cymru ddysgu gwersi o lwyddiant uno Heddlu’r Alban yn 2013 er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu dosbarthu’n deg ac yn ddoeth rhwng y rhanbarthau, a bod cysylltiadau gyda heddluoedd yn Lloegr yn parhau’n gryf i fynd i’r afael â throseddau trawsffiniol.

“Byddai un heddlu yn caniatáu gwasanaeth mwy effeithlon o ran Adnoddau Dynol, TGCh, caffael a’r holl seilwaith arall sy’n galluogi’r heddlu i wneud eu gwaith o ddydd i ddydd.

“Byddai diwygio radical yn gyfle i adfer yr ymddiriedolaeth sydd wedi’i herydu oherwydd digwyddiadau cywilyddus fel achos diweddar Heddlu Gwent. Gallai arwain at newid cadarnhaol mewn canlyniadau i ddioddefwyr a meithrin diwylliant plismona newydd yn seiliedig ar barch a chynhwysiant.

“Mae’r Adolygiad Strategol o Blismona yng Nghymru a Lloegr dan gadeiryddiaeth Syr Michael Barber eisoes wedi argymell uno swyddogaethau cefn swyddfa pob llu. Nawr yw’r amser i gymryd camau beiddgar a sicrhau bod yr heddlu yn y sefyllfa gryfaf posib i gadw ein cymunedau’n ddiogel.”