Dylid dod â chynllun achub morgeisi a gyflwynwyd gan weinidogion Plaid Cymru yn ystod argyfwng 2008 yn ôl, wedi’i ariannu drwy dreth ar hap ar fanciau

Mae Plaid Cymru heddiw (dydd Mercher 21 Mehefin) wedi galw am weithredu brys ar forgeisi a rhenti gan fod ffigurau chwyddiant enbyd yn bygwth mwy o boen i gartrefi, gyda llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, yn dweud bod Llywodraeth y DU yn “absennol”.

Galwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth y DU i ystyried gweithredu trethi untro ar elw banciau yn ystod cyfnodau o galedi, a allai gyfrannu at ariannu cynllun achub morgeisi. Daw’r ymyrraeth yn dilyn ffigyrau chwyddiant heddiw sy’n dangos bod chwyddiant wedi aros ar 8.7% ym mis Mai – yr un lefel â mis Ebrill. Mae cyfraddau morgeisi yn parhau i ddringo, gyda'r gyfradd sefydlog dwy flynedd gyfartalog yn codi i 6.07% heddiw, yr uchaf ers mis Tachwedd.

Amlygodd llefarydd Plaid Cymru ar Dai, Mabon ap Gwynfor MS, fod Gweinidogion Plaid Cymru wedi arwain y ffordd yn ystod y chwalfa ariannol yn 2008 wrth gefnogi aelwydydd sy’n cael trafferth gyda thaliadau morgais. Tynnodd y blaid sylw hefyd at waith drwy gytundeb cydweithredu presennol y blaid gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun Diogelu Morgeisi ac ailadroddodd alwadau am rewi rhenti.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar Dai, Mabon ap Gwynfor AS:

“Pan oedd Plaid Cymru mewn llywodraeth rhwng 2007 a 2011, bu ein gweinidogion yn arwain y ffordd wrth gefnogi talwyr morgeisi ar adegau o galedi ariannol.

“Trwy ein gwaith yn y cytundeb Cydweithredu i ddatblygu Cynllun Diogelu Morgeisi byddwn yn gallu helpu mwy a mwy o bobl sy’n dioddef gyda gyfraddau llog uchel – canlyniad uniongyrchol i benderfyniadau trychinebus a wnaed gan Lywodraeth Dorïaidd ddi-hid yn San Steffan.

“Bydd llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cadw i fyny â thaliadau morgais, ond mae rhenti’n mynd yn anfforddiadwy hefyd.

“Yng nghanol argyfwng cost-byw mae’n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru godi i faint yr argyfwng a gweithredu rhewi rhenti yn y sector tai preifat. Pasiodd Llywodraeth yr Alban ddeddfwriaeth sy’n amddiffyn tenantiaid ac mae’n hen bryd i Lywodraeth Llafur Cymru wneud yr un fath.

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS:

“Mae hwn yn argyfwng difrifol ond mae Llywodraeth y DU yn absennol.

“Tra bod cartrefi a rhentwyr yn brwydro o dan bwysau cyfraddau llog, mae pedwar banc mawr y DU wedi gweld eu helw yn cynyddu 42 y cant.

“Mae banciau mawr wedi gwneud dros £4.8bn o elw ychwanegol drwy beidio â throsglwyddo codiadau cyfradd llog i gynilwyr. Mae’n hen bryd iddynt gyfrannu eu cyfran deg i gefnogi unigolion sy’n mynd i’r afael ag argyfwng morgais. Os byddant yn gwrthod, dylai Llywodraeth y DU ystyried rhoi trethi untro ar elw banciau yn ystod cyfnodau o galedi i rentwyr a deiliaid morgeisi.

“Bydd yr argyfwng sydd ar ddod yn arbennig o boenus i aelwydydd incwm isel – rhaid i Lywodraeth y DU ddadrewi ac uwchraddio’r Lwfans Tai Lleol i’w helpu.

“Yr eliffant yn yr ystafell, wrth gwrs, yw bod chwyddiant yn y DU yn uwch na’n partneriaid Ewropeaidd oherwydd penderfyniadau gwleidyddol yma. Ni all Rishi Sunak feio’r rhyfel yn yr Wcrain na’r pandemig mwyach am ragolygon economaidd llwm y DU.

“Mae costau mewnforio yn uwch oherwydd Brexit, tra bod prinder gweithwyr wedi cynyddu costau cyflogau, hefyd oherwydd Brexit. At hynny, achosodd cyllideb fach Liz Truss a Kwarteng niwed hirdymor i hyder allanol yn yr economi. Rhaid i’r Ceidwadwyr gymryd cyfrifoldeb.”