Hanes Llafur ar amddiffyn a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru yn “druenus a siomedig ofnadwy” meddai Sian Gwenllian

Mae dyfodol Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn perygl os nad yw setliad cyllid cynaliadwy yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru mae Plaid Cymru wedi rhybuddio.

Ni ddyrannwyd unrhyw arian ychwanegol i'r Llyfrgell Genedlaethol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru er bod argymhellion i wneud mewn adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae angen oddeutu £1.5m ar y llyfrgell er mwyn osgoi colli staff a gwasanaethau pellach, ar ôl i £200,000 o’r £ 250,000 a dderbyniodd yn ddiweddar cael ei dynnu gan Lywodraeth Cymru oherwydd y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru yn honni nad yw’r £1.5m ar gael, er iddo gyhoeddi £ 17.7m ar gyfer chwaraeon Cymru wythnos diwethaf.

Mae deiseb ar-lein yn galw am arian teg ar gyfer y llyfrgell wedi casglu bron i 14,000 o lofnodion. Cefnogwyd yr alwad hefyd gan awdur ‘His Dark Materials’, Philip Pullman, a fynegodd ei bryder ynghylch y bygythiad sy’n wynebu’r llyfrgell, gan alw’r toriadau cyllid yn “fandaliaeth ar raddfa epig”.

Gan alw’r Llyfrgell Genedlaethol yn rhan hynod bwysig o fywyd diwylliannol, addysg a hanesyddol Cymru, dywedodd Gweinidog Diwylliant Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian MS, fod blynyddoedd o doriadau cyllid wedi ei gadael “ar ei gliniau” a’i ddyfodol “mewn perygl” heb setliad gyllid cynaliadwy gan y Llywodraeth.

Beirniadodd Ms Gwenllian hanes “druenus a siomedig ofnadwy” Llafur ar amddiffyn treftadaeth a diwylliant Cymru a dywedodd y byddai cenedlaethau’r dyfodol yn eu barnu am ddiffyg gweithredu os na fyddant yn neud.

Prynhawn yma, bydd Plaid Cymru yn arwain dadl yn y Senedd ar gyllid y Llyfrgell yn y dyfodol, gan alw am amdano.

Dywedodd Gweinidog Diwylliant Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian MS,

“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn rhan hynod bwysig o fywyd diwylliannol, addysg a hanesyddol Cymru ond mae blynyddoedd o doriadau cyllid wedi ei gadael ar ei gliniau a’i dyfodol mewn perygl os na ddarperir setliad cyllid cynaliadwy.

“Mae’r gyllideb ddrafft diweddaraf yn dangos nad oes gan Lywodraeth Llafur Gymru unrhyw ddiddordeb mewn sicrhau hyfywedd ariannol tymor hir un o’n sefydliadau cenedlaethol mwyaf gwerthfawr.

“Fe wnaethon nhw eu hunain gomisiynu adolygiad o’r Llyfrgell a oedd yn argymell y dylid rhoi sylw ar frys i anghenion ariannol y Llyfrgell, a bod y sefyllfa ariannu bresennol yn anghynaladwy. Dywedodd y Gweinidog Diwylliant ei hun ei fod yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r argymhellion hyn, ond nid oes unrhyw arian ychwanegol wedi’i ddyrannu i’r Llyfrgell.

“O wrthod gwneud hanes Cymru yn orfodol, peidio ag ariannu Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown, i ddymchwel tirnodau diwylliannol fel y ‘Paddle Steamer Café’ yn Butetown, mae hanes Llafur ar amddiffyn a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru yn druenus ac yn siomedig ofnadwy.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu’r arian annigonol a ddyrannwyd i’r Llyfrgell Genedlaethol ar frys a’i darparu gyda setliad cyllid cynaliadwy a fydd yn amddiffyn gweithlu heddiw ac yn caniatáu i’r llyfrgell ehangu ei gwaith hanfodol ar gyfer y dyfodol.

“Mae'r Llyfrgell yn sefydliad cenedlaethol, ac mae’n rhaid ei warchod. Fel y dywedodd yr awdur Phillip Pullman, ni fyddai diffyg cyllid Llywodraeth Cymru yn ddim mwy na gweithred o fandaliaeth ddiwylliannol a bydd Llafur yn cael ei farnu gan genedlaethau’r dyfodol am ddiffyg gweithredu.”