Plaid Cymru yn talu teyrnged i staff y gwasanaeth iechyd ar ei phen-blwydd yn 75 oed

Ni fydd y gwasnaeth iechyd gwladol yn bodoli mewn 75 mlynedd heb “weithredu brys a llym” mae Plaid Cymru wedi rhybuddio.

Mae’r gwasnaeth iechyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 heddiw (5ed Gorffennaf 2023) a hynny mewn cyfnod ansicr o’i hanes.

Mae amseroedd aros yn uwch nag erioed ac roedd staff y gwasnaeth iechyd hefyd ar streic ynghylch tal ac amodau – rhai am y tro cyntaf – yn gynharach eleni.

Wrth dalu teyrnged i’r gwasnaeth iechyd a’i egwyddor sylfaenol o ddarparu iechyd am ddim ar y pwynt o angen i bawb, rhybuddiodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor fod “tair blynedd ar ddeg o doriadau’r Torïaid a phedair blynedd ar hugain o gamreoli Llafurwedi gadael y gwasanaeth ar ei gliniau.

Rhybuddiodd AS Plaid Cymru efallai na fyddai’r gwasnaeth iechyd yn goroesi am saith deg pum mlynedd arall heb “weithredu llym”.

Dywedodd Mr ap Gwynfor y gallai cynllun pum pwynt Plaid Cymru helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng yn y gwasnaeth iechyd yng Nghymru – gan gynnig atebion uniongyrchol a thymor hirach gan gynnwys mynd i’r afael ag amseroedd aros, buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, a gweithredu cynllun gweithlu i recriwtio a chadw mwy o feddygon a nyrsys.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mabon ap Gwynfor AS,

“Saith deg pum mlynedd yn ôl, ganed y gwasnaeth iechyd yng Nghymru – gan arwain y ffordd o ran darparu gofal iechyd am ddim i bawb yn ol yr angen.

“Mae Plaid Cymru yn hynod falch o’n gwasanaeth iechyd a’r staff rheng flaen ymroddedig sydd wedi darparu gwasanaeth a gofal amhrisiadwy am y 75 mlynedd diwethaf. Nhw yw asgwrn cefn ein system gofal iechyd – hebddyn nhw, nid oes gwasanaeth iechyd.

“Ond mae tair blynedd ar ddeg o doriadau’r Torïaid a phedair blynedd ar hugain o gamreoli Llafur wedi’i adael ar ei gliniau, gyda chanlyniadau iechyd gwaeth a gweithlu sydd ar erchwyn y dibyn.

“Mae amseroedd aros ar y lefelau uchaf erioed. Mae byrddau iechyd yn styc mewn mesurau arbennig. Mae staff a chleifion ar eu pennau eu hunain. Ni fydd ein gwasanaeth iechyd yn goroesi saith deg pum mlynedd arall heb weithredu brys a llym.

“Mae gan Blaid Cymru weledigaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd well.

“Byddem yn blaenoriaethu darparu bargen gyflog deg i weithwyr y gwasanaeth iechyd ac yn gweithredu cynllun gweithlu i recriwtio a chadw mwy o feddygon a nyrsys trwy wneud ein gwasanaeth iechyd yn lle deniadol i weithio ynddo.

“Byddem yn blaenoriaethu mesurau iechyd ataliol ac yn sicrhau symudiad di-dor o iechyd i ofal cymdeithasol i fynd i’r afael ag amseroedd aros.

“Byddem yn adfer ymddiriedaeth rhwng cleifion a’n gwasnaeth iechyd drwy roi diwedd ar gamreoli.

“Gyda’n gilydd, gallwn ailadeiladu ein gwasanaeth iechyd, gan ei wneud yn addas i’r diben: system iechyd a gofal cymdeithasol decach, gryfach a gwell yng Nghymru, yn rhad ac am ddim pan yn ol yr angen i bawb sydd ei angen – o’r crud i’r bedd.

Mae'r cynllun llawn yma