“Rhewi pob rhent a gwahardd pob troi allan” – Plaid Cymru yn adnewyddu galwadau i ddiogelu rhentwyr

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r pwerau sydd ganddi i atal mwy o bobl rhag mynd yn ddigartref dros y gaeaf o ganlyniad i renti sy'n codi'n gyflym.

Mae gwerthoedd rhent cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin 2022, cynnydd o 15.1% o’i gymharu â Mehefin 2021.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros dai, Mabon ap Gwynfor wedi galw o’r newydd i rewi pob rhent a gwahardd tenantiaid rhag cael eu troi allan. Mae Mr ap Gwynfor wedi dweud “nad yw diffyg gweithredu yn wyneb argyfwng o’r fath yn opsiwn”, a bod “methu gweithredu yn cynrychioli diffeithrwydd o ddyletswydd.”

Mae llefarydd Plaid Cymru dros dai, Mabon ap Gwynfor, wedi galw o’r newydd i rewi pob rhent a gwahardd pob cam allan, gan ddweud “yn wyneb argyfwng o’r fath, nad yw diffyg gweithredu yn opsiwn” a bod “methiant i weithredu yn cynrychioli diffeithrwydd o ddyletswydd.”

Wrth siarad cyn dadl ei blaid yn y Senedd, lle bydd galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i rewi rhenti yn y sector rhentu preifat a gosod moratoriwm ar droi pobl allan, dywedodd Mr ap Gwynfor “mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi gweithredu rhewi rhent - yn dilyn ymgyrch Lafur yn yr Alban - felly pam fod Llywodraeth Lafur Cymru yma yn methu gweithredu i ddiogelu dinasyddion Cymru?

Daeth y cyhoeddiad gan Lywodraeth yr Alban i rewi rhenti a gwahardd troi pobl allan ar 6 Medi, ac mae disgwyl i fesurau'r Alban aros yn eu lle tan ddiwedd mis Mawrth 2023.

Mae adroddiad ‘Snapshot of Poverty’ Sefydliad Bevan, gafodd ei gyhoeddi yn yr haf, yn datgelu bod 11 y cant o bobl yng Nghymru yn poeni am golli eu cartref - cynnydd o 7% ers mis Tachwedd 2021. Y sector rhentu preifat sy'n gyrru hyn yn bennaf, lle mae chwarter y tenantiaid yn poeni am golli eu cartref.  

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros dai a chynllunio, Mabon ap Gwynfor AS,

Rydym yng nghanol argyfwng tai ac un o’r argyfyngau costau byw gwaethaf mewn cof, ac mae cysylltiad anorfod rhwng y argyfyngau hyn. Mae costau byw bob dydd wedi’i wreiddio mewn costau tai, ac yn  ei dro mae costau tai roced yn gwaethygu'r argyfwng costau byw.

Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu ar frys i atal pobl rhag bod yn ddigartref yn ystod y gaeaf drwy rewi’r holl renti a gwahardd pob troi allan yn y sector rhentu preifat.  Mae argyfwng fel hyn yn gofyn am weithredu brys - fel y llywodraeth a gymerwyd yn y pandemig. Pam ddim nawr?

Mae Llafur yn gyflym i roi’r bai ar y Torïaid yn San Steffan, ond y gwir yw bod ganddyn nhw’r pŵer i weithredu. Bydd methu gwneud hynny’n cynrychioli diffeithrwydd o ddyletswydd gan Lafur yng Nghymru i warchod ein rhai mwyaf agored i niwed a manteisio i’r eithaf ar ddatganoli.  

Dywedir wrthym fod pryderon am effaith posib canlyniadau anfwriadol o gymryd camau o’r fath. Y gwir yw bod canlyniadau difrifol i beidio gwneud dim, a byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cyflwyno eu hunain yn ddigartref os nad oes dim yn cael ei wneud i’w hamddiffyn.  Yn wyneb argyfwng o’r fath, nid yw diffyg gweithredu yn opsiwn.”