Cynnig o 1.5% yn “blastr dros-dro” – Arweinydd Plaid Cymru Adam Price

Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwelliant i’r gyllideb ddrafft er mwyn rhoi codiad cyflog go iawn o 8% i staff iechyd – y codiad cyflog cyntaf mewn termau real ers dros ddegawd.

Bydd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn cael ei thrafod heddiw (dydd Mawrth 7 Chwefror 2023).

Mae gwelliant Plaid Cymru i’r gyllideb yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi refeniw ychwanegol drwy amrywio cyfradd y dreth i roi cynnig cyflog tecach i weithwyr iechyd a gofal fel rhan o fuddsoddiad tymor hwy yn y gwasanaeth.

Ar ôl gwadu bod unrhyw arian, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener “gynnig cyflog diwygiedig” o 3% yn ychwanegol i staff y GIG, gyda 1.5% ohono wedi’i gyfuno (consolidated).

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod y cynnydd o 1.5% yn “blastr dros-dro” ac y byddai’n gwneud “dim” i fynd i’r afael â gwasanaeth iechyd gwladol sydd “yn brin o staff” a system ofal sydd “yn cael ei thanariannu”.

Dywedodd Mr Price y byddai cynllun Plaid Cymru yn cynhyrchu £317 miliwn ychwanegol er mwyn cynnig codiad cyflog o 8% i weithwyr y gwasnaeth iechyd - y codiad cyflog cyntaf mewn termau real ers dros ddegawd - i helpu i fynd i'r afael â phrinder staff - a rhoi £12 yr awr i weithwyr gofal fel lleiafswm.

Fe wnaeth Arweinydd Plaid Cymru hefyd annog y llywodraeth Lafur i gefnogi galwadau’r blaid i Gymru osod ei bandiau treth ei hun i greu “system drethiant decach”.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

“Gwasanaethau cyhoeddus – torri. Amseroedd aros – i fyny. Mae teuluoedd yn cael trafferth rhoi bwyd ar y bwrdd tra bod busnesau lleol yn mynd i'r wal.

“Dyma ganlyniad uniongyrchol tair blynedd ar ddeg o doriadau’r Torïaid a phum mlynedd ar hugain o fethiant Llafur yn darparu atebion real a radical i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau.

“Mae Plaid Cymru wedi dangos ffordd ymlaen. Gan ddefnyddio’r pwerau trethu sydd gennym yma yng Nghymru, gallem gynhyrchu £317 miliwn yn ychwanegol i gynnig codiad cyflog o 8% i weithwyr y GIG – y codiad cyflog cyntaf mewn termau real ers dros ddegawd – er mwyn helpu i fynd i’r afael â phrinder staff a rhoi o leiaf £12 i weithwyr gofal.

“Nid yw’r cynnig o 1.5% sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd gan Lafur yn ddim byd ond plastr dros dro. Ni fydd yn gwneud dim i fynd i’r afael â gwasanaeth iechyd sydd heb ddigon o staff, system ofal nad yw’n cael ei hariannu’n ddigonol a gweithlu yn y ddau sy’n dioddef oriau hir a diffyg parch. Dim ond Plaid Cymru sydd wedi cyflwyno cynllun credadwy i drawsnewid pethau i wella’r argyfwng yn y gwasanaeth iechyd a gofal.

“Lle mae Plaid Cymru yn arwain, mae Llafur yn dilyn – yn y diwedd. Anogwn nhw i’n dilyn yn awr, yn ddi-oed a chefnogi ein gwelliant i’r  gyllideb. Ac, os ydyn nhw wir yn credu mewn system drethiant deg, byddan nhw’n ein cefnogi ni ddydd Mercher i fynnu’r pwerau i osod ein bandiau treth ein hunain yn union fel yr Alban, yn hytrach na chael ein rheoli gan San Steffan – eto.”