Record balch awdurdodau lleol Plaid Cymru wrth groesawu ffoaduriaid yn cael ei amlygu yn San Steffan

Heddiw (16 Mawrth 2022), tynnodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, sylw at “record arbennig o dda" awdurdodau lleol dan arweiniad Plaid Cymru o groesawu ffoaduriaid yn ystod dadl ar ffoaduriaid o’r Wcrain yn Senedd San Steffan.

Tynnodd sylw at y ffaith bod gan awdurdodau lleol a arweinir gan Blaid Cymru yn gyffredinol gyfradd adsefydlu uwch na’r cyfartaledd o gymharu â’r DU gyfan, gyda Cheredigion â’r gyfradd adsefydlu uchaf yng Nghymru (10 o bobl fesul 10,000 o’r boblogaeth) a Sir Gaerfyrddin wedi ailsefydlu’r nifer uchaf o bobl yng Nghymru. (172).

Tynnodd Ms Saville Roberts sylw hefyd at lythyr Cyngor Gwynedd at y Prif Weinidog ddoe yn mynegi parodrwydd y cyngor a phobl Gwynedd i ddarparu noddfa i ffoaduriaid cyn gynted â phosibl ac anogodd am y llwybr nawdd i atgynhyrchu’r trefniadau sy’n bodoli yn Iwerddon.

Anogodd y llywodraeth hefyd i ddilyn yr “enghraifft flaengar” a ddangoswyd gan Urdd Gobaith Cymru wrth ddarparu bwyd, gweithgareddau a llety i ffoaduriaid mewn rhaglen gyfannol gydag ymrwymiad llawn cynghorau a Llywodraeth Cymru. Mae Ms Saville Roberts wedi beirniadu Llywodraeth y DU am ddiffyg ymgynghori ag awdurdodau lleol Cymru ar y rhaglen ‘Cartrefi i Wcráin’.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Ms Saville Roberts:

“Mae Cymru wedi dangos yn y gorffennol y gallwn gynnig croeso i ffoaduriaid, fel oedd yn wir am deuluoedd sy’n ffoi o Afghanistan. Hoffwn dynnu sylw at enghraifft benodol yma – bu Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, sydd wedi darparu noddfa a chefnogaeth i dros 100 o ffoaduriaid Afghanistan yn ystod eu pum mis cyntaf yng Nghymru.

“Roedd y croeso hwn yn cynnwys cynnig bwyd a llety, mynediad i fannau cymdeithasol, amserlen o chwaraeon a gweithgareddau dyddiol, rhaglen o weithdai amrywiol, cyngor gyrfaoedd, sesiynau hamdden mewn meithrinfeydd, ac ymweliadau â digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol. Mae’n cael ei gydnabod fel enghraifft flaenllaw o ran sut i helpu ffoaduriaid i integreiddio i gymunedau Cymreig – un o’r arferion gorau o adsefydlu yn y Deyrnas Unedig.

“Dim ond gydag ymgysylltiad llawn cynghorau, Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r Urdd ac elusennau eraill oedd hyn yn bosibl. Mewn ymateb i gwestiwn gan fy ffrind Delyth Jewell AS ddoe, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddan nhw’n ystyried cynllun tebyg ar gyfer ffoaduriaid o’r Wcrain. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn dysgu gwersi’r llwyddiant hwn i ffoaduriaid o’r Wcráin.

“Mae gan gynghorau Plaid Cymru hefyd hanes arbennig o dda gydag ailgartrefu, gan gynnwys teuluoedd o Syria yn ogystal ag Afghanistan. Yn gyffredinol, mae gan awdurdodau lleol dan arweiniad Plaid Cymru gyfradd ailgartrefu uwch na’r cyfartaledd o gymharu â’r DU yn gyffredinol, gyda Cheredigion â’r gyfradd adsefydlu uchaf yng Nghymru (10 o bobl fesul 10,000 o’r boblogaeth) a Sir Gaerfyrddin sydd wedi ailsefydlu’r nifer uchaf o bobl yng Nghymru (172) .

“Mae hyn yn eithriadol o ystyried natur wledig yr awdurdodau lleol hyn. Rhaid i Weinidogion amlinellu pa rwydweithiau cymorth cenedlaethol sydd yno i weithredu y tu hwnt i’r de-ddwyrain a Llundain. Os ydym am ail-gartrefu pobl i bob cwr o'r Deyrnas Unedig yna mae’n hanfodol bod cymorth cenedlaethol yn cael ei ymestyn y tu hwnt i dde-ddwyrain Lloegr. Bydd cynghorau Plaid Cymru wrth gwrs yn chwarae eu rhan yn y llwybr nawdd newydd.

“Ysgrifennodd fy nghyngor fy hun, Cyngor Gwynedd, at y Prif Weinidog ddoe i fynegi parodrwydd y cyngor a phobol Gwynedd i ddarparu noddfa i ffoaduriaid cyn gynted â phosibl ac erfyniodd am y llwybr nawdd i atgynhyrchu’r trefniadau sy’n bodoli yn Iwerddon, ble mae ffoaduriaid yn cael eu croesawu i ganolfannau prosesu cyfforddus lle mae ganddyn nhw fynediad at hanfodion sylfaenol, a lle mae plant yn cael mynediad i le chwarae diogel.”