Mae AS Gogledd Cymru Llŷr Gruffydd yn dweud fod ffigyrau gan y Bwrdd Iechyd sy’n dangos cynnydd mewn achosion cofid-19 yn Wrecsam ac o fewn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn “arwydd wael nad yw’r haint o dan reolaeth”

Mae ffigyrau gan swyddog o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar gynnydd achosion o fewn Ysbyty Maelor Wrecsam, yn ogystal ag ysbytai yng Nglannau Dyfrdwy, Yr Wyddgrug, a’r Waun, wedi arwain at AS Gogledd Cymru Plaid Cymru Llŷr Gruffydd i alw am brofion ar gyfer pob claf sy’n cael ei dderbyn i’r ysbyty a staff GIG er mwyn osgoi lledaenu’r feirws o fewn y gymuned.

Ar ôl i ffigyrau oedd yn sôn fod tua 11% o gleifion cofid-19 wedi’u heintio o fewn ysbytai ddod i’r amlwg wythnos diwethaf, mae AS Gogledd Cymru Plaid Cymru yn nodi fod cynnydd yr achosion mewn 4 ysbyty gwahanol yng ngogledd Cymru yn enwedig o bryderus.

Galwodd Mr Gruffydd hefyd am eglurder gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gan Lywodraeth Cymru er mwyn ennill hyder y cyhoedd ar y mater.

Dwedodd Llŷr Gruffydd, AS Plaid Cymru dros ogledd Cymru,

“Mae ffigyrau newydd sy’n cadarnhau achosion cofid-19 mewn tri ysbyty gymuned yn Sir y Fflint a Wrecsam yn bryderus iawn ac yn dod ar ben cynnydd mewn achosion cofid-19 ym Maelor. Mae ysbytai yng Nglannau Dyfrdwy, Yr Wyddgrug, a’r Waun hefyd nawr ag achosion wedi’u gadarnhau ar ei wardiau.

“Yn ogystal â phrofi pob claf – nid yn unig rheini ar wardiau wedi’u heffeithio – mae hefyd yn angenrheidiol fod pob Aelod o staff GIG yn cael eu profi er mwyn cyfyngu trosglwyddo pellach.

“Mae hwn wedi’u gyfuno a’r cynnydd mewn nifer yr achosion yn y gymuned yn Wrecsam yn arwydd gwael nad yw’r haint o dan reolaeth yn rhan yma o Gymru. Dwi wedi neud cais am fwy o eglurhad ar frys gan Betsi Cadwaladr os ydynt am ddeall pam fod hwn yn broblem sy’n gwaethygu yn yr ardal.”