Mae Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Sian Gwenllian AS wedi galw am fwy o fanylion gan Lywodraeth Cymru am eu cynllun brechu, gan gynnwys sut y byddai trydydd dos posibl yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.

Mae Ms Gwenllian, sydd hefyd yn llefarydd ar ran pobl ifanc a phlant, hefyd wedi galw am y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r brechlyn ymhlith pobl ifanc. Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod ychydig dros hanner y bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael dos cyntaf, a dim ond 10% sydd wedi derbyn ail ddos.

Daw'r galwadau yn dilyn adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o gyfyngiadau COVID, lle nad oes disgwyl iddynt wneud unrhyw newidiadau pellach.

Bydd ysgolion yng Nghymru yn ailagor o 1 Medi ymlaen.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd, Sian Gwenllian AS,

“Drwy'r pandemig rydym wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu da a chlir gan Lywodraeth Cymru. Rwan, ar adeg pan fo achosion ar gynnydd eto, mae'n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru ddidwyll â'r hyn y mae'r data'n ei ddatgelu - yn  benodol ar sut mae'r rhaglen frechu wedi effeithio ar nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty o COVID.

“Mae pobl hefyd yn awyddus i weld a yw'r llywodraeth wedi gwneud cynlluniau ar gyfer trydydd dos o frechlynnau - gyda sôn y gallai imiwnedd ostwng dros amser, mae'n bwysig bod y llywodraeth yn gallu ein sicrhau bod ganddynt gynllun pe bai angen trydydd dos.

“Mae'r cynnydd hwn mewn achosion yn digwydd yr wythnos cyn i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol yn achos pryder ychwanegol. Mae angen sicrwydd arnom fod mwy o ffocws ar fonitro lledaeniad y feirws mewn plant a phobl ifanc, yn enwedig gan mai dim ond hanner y bobl ifanc 16 ac 17 oed sydd wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn. Ni allwn ganiatáu i'r feirws ledaenu'n rhydd ymhlith ein plant a'n pobl ifanc, yn enwedig gyda thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg am effaith COVID hir ar y grŵp oedran hwn.”