Mae un o addewidion allweddol Plaid Cymru o etholiad y Senedd wedi arwain at filoedd yn fwy o ddisgyblion ysgolion cynradd yn elwa o brydau ysgol am ddim

Mae 1.5 miliwn o brydau ysgol am ddim ychwanegol wedi cael eu gweini mewn ysgolion cynradd ledled Cymru, diolch i "ymgyrchu diflino" Plaid Cymru a grwpiau gwrthdlodi.

Mae'r ffigwr yma yn cynrychioli’r prydau ychwanegol a wasanaethir i ddisgyblion ysgolion cynradd ers dechrau cyflwyno Prydau Ysgol Cynradd Am Ddim Cyffredinol ym mis Medi – polisi a sicrhawyd gan Blaid Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu gyda Llywodraeth Cymru.

Roedd prydau ysgol am ddim yn addewid allweddol i Blaid Cymru ym maniffesto etholiad Senedd Cymru 2021.

Bydd pob plentyn ysgol gynradd a mwy na 6,000 o ddisgyblion oed meithrin sy'n mynychu ysgol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Mae’r Prydau Ysgol cyffredinol am ddim bellach yn caniatáu i 45,000 o blant ysgol gynradd ychwanegol gael yr opsiwn i gael pryd ysgol am ddim. Amcangyfrifir y bydd bron i 66,000 o ddisgyblion ychwanegol yn cael eu bwydo ym mlwyddyn gyntaf y broses o'u cyflwyno.

Dechreuodd y broses o gyflwyno ar ddechrau tymor yr hydref, gyda phlant derbyn yn cael y prydau am ddim cyntaf. Bellach mae disgyblion blwyddyn un a dau yn dechrau elwa o’r cynllun.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros blant a phobl ifanc, Heledd Fychan AS,

Roedd gweld cyflwyno prydau ysgol am ddim ar draws ysgolion cynradd yng Nghymru yn foment o falchder i bawb sydd wedi ymgyrchu’n ddiflino dros hyn am flynyddoedd.

Mae prydau bwyd am ddim cyffredinol i ddisgyblion ysgolion cynradd wedi bod yn flaenoriaeth i Blaid Cymru ers tro, ac mae'n gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a thlodi plant yng Nghymru.

Ni all plant llwglyd ddysgu, a darparu lefelau prydau bwyd maethlon am ddim i bob plentyn ysgol gynradd a bydd yn helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant.”

Dywedodd Aelod Dynodedig Siân Gwenllian AS:

Mae cyflawni 1.5 miliwn o brydau ysgol am ddim ychwanegol mewn ychydig dros dri mis yn gyflawniad aruthrol ac yn un sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed.

“Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru yn dangos sut mae cydweithio drwy’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Rydym yn sicrhau nad oes yr un plentyn yn llwgu, tra hefyd yn rhoi help i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.

“Bydd nifer y prydau sy’n cael eu dosbarthu hefyd yn cynyddu wrth i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau y bydd pob plentyn sy'n mynychu ysgolion cynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Rwyf am ddiolch i’n hawdurdodau lleol ac ysgolion gan ein helpu i gyflawni hyn.”