Dywed Plaid Cymru bod diffyg gweithredu Llafur ar ddatganoli plismona a chyfiawnder yn “siarad yn uwch na’u geiriau”    

Mae Plaid Cymru wedi galw eto am ddatganoli pwerau llawn dros gyfiawnder a phlismona i Gymru.

Mae'r alwad, sy’n cael ei thrafod heddiw (dydd Mercher 21 Mehefin) yn y Senedd yn cynnwys gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i’r Senedd ac i sefydlu system gyfreithiol benodol yng Nghymru.

Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon bwerau deddfu llawn dros gyfiawnder a phlismona. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae San Steffan yn dal i gadw’r pwerau. Mae arweinydd newydd ei ethol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi dweud bod hyn yn gwneud Cymru'n “anghysondeb”, ac yn fater y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i “gywiro ar unwaith”.

Er bod disgwyl i Lafur yng Nghymru gytuno â’r datganiad “nad oes sail resymol” i Gymru fod yn alltud, maen nhw wedi rhoi gwelliant sy'n dileu’r gofyniad iddyn nhw gymryd camau ar unwaith i gywiro’r anghysondeb hwn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Plaid Cymru,:

“Mae Cymru yn alltud o ran cyfiawnder a phlismona, am ei bod yr unig genedl ddatganoledig sydd heb reolaeth dros faterion cyfiawnder troseddol. Ond er bod y Llywodraeth Lafur yn hapus i gydnabod hyn yn anghyson, nid ydynt yn dangos unrhyw frys i’w datrys.

“Mae anghydraddoldeb yn rhan ganolog o’n system gyfiawnder. Ond gyda hyder y cyhoedd yn yr heddlu yn isel, a throseddu yng Nghymru ar ei lefel uchaf erioed, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi'r cyfle gorau i ni fynd i’r afael â’r materion hyn yn uniongyrchol.

“Tra bod Llafur yng Nghymru yn dweud eu bod yn cytuno y dylid datganoli plismona a chyfiawnder, diolch i waith fy nghyd-Aelod, yr Arglwydd Wigley, rydym yn deall nad oes cais ffurfiol wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Mae eu diffyg gweithredu pendant yn siarad yn uwch na’u geiriau.

“Wedi’i osod yn erbyn naratif anghyson gan eu cymheiriaid yn Llafur y DU, sydd wedi galw am blismona i ‘aros’ yn San Steffan - dyna pam mae Plaid Cymru wedi dod a’r ddadl hon i'r Senedd heddiw.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau llawn dros gyfiawnder a phlismona, gan mai dyma’r unig ffordd y gallwn fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau yn y system bresennol, a gall system cyfiawnder troseddol sydd wedi’i datganoli’n llawn fod yn gam hanfodol ar hyd y ffordd i annibyniaeth.”