“Cred gadarn” nad oedd datganiadau a wnaed gan y Prif Weinidog a Vaughan Gething “yn gynrychiolaeth gywir o’r ffeithiau”

Mae gwybodaeth sydd wedi’i weld gan Blaid Cymru yn nodi nad oedd Llywodraeth Cymru wedi “cynrychioli’r ffeithiau’n gywir” wrth nodi’r rhesymau dros gymryd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig yn Nhachwedd 2020.

Ar y pryd, dywedodd y cyn-Weinidog Iechyd, Vaughan Gething bod “prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru - wedi rhoi cyngor clir y dylai mesurau arbennig Betsi Cadwaladr ddod i ben, a dyna sail fy mhenderfyniad i.”

Dim ond eleni, mae’r Prif Weinidog ar record yn cadarnhau bod y penderfyniad wedi ei wneud “oherwydd i ni gael ein cynghori mai dyna ddylem ni ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol…

Fodd bynnag, mewn llythyr at arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, yn cadarnhau “Wrth ymateb i’ch cwestiwn penodol ynghylch a oedd cyngor gennyf i neu fy staff i’r Gweinidog i ostwng lefel y Bwrdd Iechyd o Fesurau Arbennig bryd hynny, gallaf fod yn glir iawn, nad oedd.”

Dywed Cod moeseg y gweinidogion Llywodraeth Cymru ei bod “o’r pwys mwyaf bod yr wybodaeth y mae’r Gweinidogion yn ei rhoi i’r Senedd yn gywir ac yn wir, a’u bod yn cywiro unrhyw gamgymeriad a wnaed drwy amryfusedd cyn gynted ag y bo modd.”

Ysgrifennodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS at y Prif Weinidog i ofyn am ddatrysiad i’r mater, ond mae’r Prif Weinidog wedi diystyru galwadau Plaid Cymru i gywiro’r record. 

Oherwydd difrifoldeb y mater, a’r ffaith ei fod er budd y cyhoedd i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i bawb, mae Plaid Cymru heddiw (dydd Mawrth 18 Ebrill) wedi cyhoeddi’r llythyr gan yr Archwilydd Cyffredinol at Adam Price, sy’n cadarnhau na ddaeth cyngor o'r fath gan Archwilio Cymru i gymryd y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal:

Y peth pwysicaf i mi, ac i Blaid Cymru, yw ceisio gwella darpariaeth gofal iechyd yn y gogledd. Heb os, mae’r staff, cleifion a phoblogaeth ehangach yn y gogledd yn haeddu gwell gan eu bwrdd iechyd a gan y llywodraeth sydd wedi bod yn ei rheoli ers cyhyd.

Ers talwm codwyd cwestiynau ynghylch amseru cymryd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig - a hynny’n gyfleus cyn etholiad Senedd 2021. Ond cafodd unrhyw ymgais i holi hyn gyda Llywodraeth Cymru ei diystyru’n gadarn. Mewn gwirionedd, honnwyd - gan Brif Weinidog Cymru ddim llai - bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynghoridylai’ bwrdd iechyd gael ei dynnu allan o fesurau arbennig.

Bellach mae gennym dystiolaeth na chafodd Llywodraeth Cymru gyngor o’r fath gan yr Archwilydd Cyffredinol. Mae’n ofynnol i Blaid Cymru, fel gwrthblaid, gwestiynu’r anghysondeb hwn. Roeddem yn barod i roi cyfle teg i’r Prif Weinidog gyflwyno camau i unioni’r sefyllfa hon, ond mae’r diffyg ymateb digonol, a dyfnder diddordeb y cyhoedd yn y mater yn golygu bod yn rhaid i ni ddod â hyn i’r parth cyhoeddus.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae cynnal gwerthoedd cywirdeb, gonestrwydd a thryloywder mewn bywyd cyhoeddus yn hollbwysig.”