Heddiw, mae ymgeisydd Etholiad Senedd Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, wedi rhybuddio bod yr argyfwng ail gartrefi sy’n wynebu cefn gwlad Cymru yn bygwth “cenhedlaeth goll” gyda phobl ifanc yn cael eu prisio allan o’u cymunedau ac yn cael eu gorfodi i adael.

Cyfeiriodd Mabon ap Gwynfor at ffigurau sy’n dangos bod tua 40% o’r tai sy’n mynd ar y farchnad bob blwyddyn bellach yn cael eu prynu fel ail gartrefi.

Datgelodd ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd becyn polisïau ei blaid i fynd i’r afael â’r argyfwng gan gynnwys caniatáu i gynghorau godi premiymau treth gyngor o hyd at 200% ar ail gartrefi, cau’r bwlch sy’n caniatáu i ail gartrefi gael eu cofrestru fel “busnesau”, a newid deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor:

“Mae’r argyfwng ail gartrefi sy’n wynebu llawer o gymunedau gwledig yn bygwth gweld cenhedlaeth o bobl ifanc yn cael eu gorfodi i adael eu milltir sgwâr oherwydd eu bod yn cael eu prisio allan o’r ardal.

“Yng Ngwynedd, mae tua 40% o’r tai sy’n mynd ar y farchnad bob blwyddyn bellach yn cael eu prynu fel ail gartrefi ac rydym i gyd wedi gweld eiddo o’r fath yn cael ei hysbysebu ar symiau ofnadwy o uchel.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno pecyn o bolisïau wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r argyfwng gan gynnwys caniatáu i gynghorau godi premiymau treth gyngor o hyd at 200% ar ail gartrefi, a chau’r bwlch sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i ail gartrefi gael eu cofrestru fel ‘busnesau’ er mwyn osgoi'r premiwm.

“Byddem hefyd yn newid deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi o fewn ardal awdurdod lleol, a chyflwyno rheoliadau i dreblu’r tâl Treth Trafodiad Tir ar brynu ail eiddo.

“Yn ogystal, byddai llywodraeth Plaid yn ailddiffinio’r term ‘cartref fforddiadwy’ sydd ar hyn o bryd yn cynnwys eiddo gwerth dros £ 250,000 - ffigur sydd allan o gyrraedd llawer o bobl ifanc yn ein cymunedau gwledig.

“Mae pobl ifanc wrth galon ein cymunedau gwledig a byddai llywodraeth Blaid wedi ymrwymo’n llwyr i roi pob cyfle iddynt ennill, dysgu a byw yn eu hardal o ddewis, ble bynnag yng Nghymru y gallai hynny fod.”