Mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS heddiw wedi cyhoeddi ei dîm yn y Senedd fydd yn adeiladu “Cymru decach, wyrddach, uchelgeisiol, a mwy llewyrchus”.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai ffocws y blaid yn y Senedd yn “gadarn” ar faterion allweddol gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, tai a chostau byw.

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru y byddai’r grŵp yn parhau i gydweithio â’r llywodraeth drwy’r Cytundeb Cydweithio i gyflawni addewidion i newid bywydau pobl er gwell megis prydau ysgol am ddim a diwygio’r Senedd, tra hefyd yn dwyn Llafur i gyfrif lle mae “diffygion”.

Mae Delyth Jewell wedi’i phenodi’n Ddirprwy’r Senedd a bydd yn dirprwyo dros faterion seneddol gan gynnwys Cwestiynau’r Prif Weinidog yn absenoldeb yr Arweinydd.

Mae Llyr Gruffydd yn ailgydio yn ei rôl fel Cadeirydd Grŵp y Senedd tra bod Heledd Fychan yn cymryd rol y Rheolwr Busnes.

Bydd Mabon ap Gwynfor yn ymgymryd a rol y Phrif Chwip yn ogystal a chyfrifoldeb dros bortffolio craidd Iechyd a Gofal.

Wrth gyhoeddi tîm y Senedd, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,

“Rwy’n falch o arwain tîm unedig, talentog ac ymroddedig yn y Senedd fydd yn adeiladu Cymru decach, wyrddach, uchelgeisiol a mwy llewyrchus.

“Bydd ein ffocws gadarn a chlir wrth i ni fynd i’r afael â materion y dydd: y gwasanaeth iechyd, tai, a’r economi – gan ganolbwyntio ar yr argyfwng costau byw a sicrhau gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy.

“Byddwn yn gweithio’n ddiwyd i gyflawni dros ein cymunedau a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan weithio ar y cyd â’r llywodraeth lle mae tir cyffredin ond ar yr un pryd eu dwyn i gyfrif lle mae diffyg brys a darpariaeth.

“Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i ddadlau bod budd gorau Cymru yn cael ei wasanaethu drwy wneud ein penderfyniadau ein hun fel cenedl. Drwy siarad â’r rhai sy’n hyderus am annibyniaeth yn ogystal a’r rhai nad yw eu diddordeb wedi’i danio eto, byddwn yn parhau i adeiladu’r achos dros annibyniaeth a dyfodol mwy disglair i bawb.