Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn datgelu cynllun 10 pwynt Plaid Cymru ar gyfer ymdopi a’r Coronafirws dros y Gaeaf

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, heddiw wedi datgelu cynllun 10 pwynt ei Blaid ar gyfer osgoi ail don ac osgoi ail gyfnod clo dros y gaeaf.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru fod y dystiolaeth bellach yn glir bod Cymru “ar drothwy ail don” ac y byddai methu â gweithredu arwain at ail don fyddai’n “waeth na’r cyntaf”.

Dywedodd Mr Price y gallai Cymru ddefnyddio'r dull clo sydd eisoes wedi'i fabwysiadu gan wledydd fel Pacistan sydd wedi'i seilio ar ficro-gwarantîn – sy’n canolbwyntio ar ardaloedd o heintiad uchel mewn cymunedau. Mae’r dull yn galw am dargedu cyfnodau clo mewn ardaloedd penodol yn hytrach nac ar draws ardal awdurdod lleol gyfan.

Bwrdeistref Sirol Caerffili oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i gael ei chloi yn lleol, a gyda rhybuddion yn cael eu rhoi i gynghorau cyfagos, gallai strategaeth wahanol helpu i osgoi cloi ar raddfa fwy ledled Cymru meddai Mr Price.

Mae’r cynllun 10 pwynt yn canolbwyntio yn gryf ar atebion yn y gymuned, gan ddefnyddio technoleg newydd a gwell cyfathrebu:

1. Cyfrwys gyda Chloi: Micro-gwarantîn ar lefel gymunedol
2. Gwella Adnabyddiaeth o Glwstwr: Annog pawb i gadw cofnodion cyswllt, gyda chefnogaeth ap
3. Profi Asymptomatig: Profi cysylltiadau heb symptomau (yn ogystal â'r rhai â symptomau)
4. Profion Newydd: Defnyddio’r technolegau diweddaraf fel profion poer cyflym
5. Cyfathrebu: Dechrau sgwrs reolaidd gyda’r cyhoedd ynghylch osgoi lleoliadau caeedig, lleoliadau gorlawn a lleoliadau ble mae cyswllt gyda eraill yn agos.
6. Aer Mwy Diogel: Defnydd ehangach o fygydau a gwell defnydd o awyru. Gwneud mygydau yn orfodol mewn lleoliadau cyhoeddus caeedig
7. Amddiffyn Ysgolion a Cholegau: Cyflwyno canllawiau cenedlaethol ar gyfer defnyddio mygydau wyneb
8. Llai o Farwolaethau, Gwell Triniaethau: Ymyrraeth gynnar a defnyddio ocsimetrau curiad y galon
9. Ffyrlo Lleol: Pecynnau cymorth economaidd lleol i gefnogi cloeon lleol wedi'u targedu
10. Cynllun COVID Newydd: Mae angen cynllun cyhoeddus ar Gymru nes y bydd brechlyn ar gael yn eang.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS,

“Mae’r dystiolaeth bellach yn glir ein bod ni ar drothwy ail don COVID-19. Mae heintiau yn cynyddu, ac mae’n bosibl y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu cyn bo hir mewn ysbytai a marwolaethau.

“Mae pobl yn dychwelyd o’u gwyliau sy’n dychwelyd, codi cyfyngiadau ynghyd â llai o lynu wrth y cyfyngiadau sydd dal yn eu lle wedi arwain at fwy o achosion. Mae'r hydref bellach yn gweld ailagor ysgolion, dychweliad prifysgolion a cholegau, pobl yn dychwelyd yn raddol i'r gwaith, tywydd oerach yn golygu llai o gymysgu yn yr awyr agored a dechrau tymor y ffliw.

“Os na weithredwn ni, yna fe allai’r gaeaf weld ail don sydd hyd yn oed yn waeth na’r gyntaf heb fawr o opsiwn nag ailgyflwyno clo cenedlaethol llawn. Fodd bynnag, nid yw'n rhy hwyr i osgoi hyn. Yn lle hynny, gallem fabwysiadu strategaeth newydd sy'n osgoi ail don ac ail glo.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r holl offer sydd ar gael i drechu’r firws hwn, gan gynnwys technolegau a thriniaethau newydd sy’n dod i’r amlwg, a rhaid iddynt fod yn dryloyw yn ei dull.”