Dylai Cymru allu gosod ei chyfraddau treth a bandiau ei hun i helpu mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, yn ôl Plaid Cymru.

 

Mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 8 Chwefror), bydd Plaid Cymru yn galw ar y Llywodraeth Lafur i gefnogi datganoli’r gallu i osod holl cyfraddau a bandiau Treth Incwm Cymru i’r Senedd.

 

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi dadlau bod cyfyngiadau presennol pwerau amrywio trethi Llywodraeth Cymru yn rhwystr rhag llunio polisïau effeithiol yng Nghymru, yn enwedig y gallu i ymateb i’r argyfwng costau byw presennol, a’r argyfyngau sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus.

 

Dywedodd y dylai’r Senedd feddu ar y cymhwysedd datganoledig i bennu ei bandiau treth incwm ei hun, yn unol â’r pwerau sydd eisoes wedi’u datganoli i Senedd yr Alban o dan Ddeddf yr Alban 2012.

 

Anogodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, i’r Llywodraeth Lafur gefnogi galwadau’r blaid i greu “system drethu decach”.

 

Galwodd Plaid Cymru ar y Llywodraeth Lafur yn gynharach yr wythnos hon i gefnogi ei chynlluniau i godi £317m er mwyn rhoi cynnig tecach i weithwyr iechyd a gofal fel rhan o fuddsoddiad mwy hirdymor yn y Gwasanaeth Iechyd.

 

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price:

 

“Mae gweithwyr yn cael eu gorweithio heb gyflogau digonol. Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi cael eu torri i’r asgwrn. Mae pobl yn ei chael hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd. Mae argyfwng costau byw San Steffan wedi taro Cymru yn galed.

 

“Yr wythnos hon, galwodd Plaid Cymru ar y Llywodraeth Lafur i ddefnyddio ei phwerau i amrywio trethi i gynhyrchu £317 miliwn ychwanegol er mwyn cynnig codiad cyflog o 8% i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd - y codiad cyflog cyntaf mewn termau real mewn dros ddegawd - i helpu i fynd i’r afael â phrinder staffio a darparu £12 yr awr i weithwyr gofal fel isafswm.

 

“Ond rydym yn cydnabod bod hyd yn oed y pwerau i amrywio trethi sydd gennym nawr ond yn gallu mynd â ni hyd yn hyn.

 

“Os oedd gan Gymru’r gallu i osod ei bandiau a’i chyfraddau treth ei hun, gallem fynd i’r afael yn well â’r argyfwng o ran tâl a blinder yn ein gwasanaethau cyhoeddus a theilwra atebion i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau ar hyn o bryd.

 

“Os yw Llafur wir yn blaid y gweithwyr, fel maen nhw’n honni eu bod, fe fyddan nhw’n cefnogi ein galwadau am system drethu decach i Gymru ac yn mynnu’r pwerau i osod ein bandiau a’n cyfraddau treth ein hunain - yn union fel yr Alban, yn hytrach na chaniatáu i ni gael ein gorchymyn gan San Steffan, unwaith eto.”