“Mae pandemig byd-eang yn galw am ymateb byd-eang” – Heledd Fychan AS yn galw ar Gymru i arwain y ffordd

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Rhyngwladol, Heledd Fychan AS, wedi galw ar Gymru i rannu ei harbenigedd, ei gwybodaeth dechnegol a’i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd incwm isel i gefnogi rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang.

Gan arwain ar ddadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 17 Tachwedd), bydd Ms Fychan yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang – ymrwymiad mae rhaid iddo yn ôl y gyfraith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gyda gwledydd cyfoethog yn cynhyrchu mwy o frechlynnau nag y gallant eu defnyddio, dywedodd Ms Fychan ei fod yn anfoesol bod stoc yn mynd i wastraff, yn hytrach na chael ei ailddosbarthu i wledydd incwm isel.

Ym mis Medi, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod 40,000 dos o frechlyn Astra Zeneca wedi'u dinistrio, tra bod ffigurau a ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar yn dangos bod ffigurau'r DU gyfan yn 600,000.

Mae gwledydd ag incwm isel yn ysgwyddo’r baich uchaf o ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19,gyda’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn cyfaddef yr wythnos diwethaf yn y Senedd mai “annhegwch brechu yw’r rhwystr mwyaf sy’n atal y byd rhag dod i’r amlwg o’r pandemig hwn.”

Adleisir y galwadau hyn gan Oxfam Cymru, sydd hefyd wedi galw o’r newydd ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar San Steffan i godi eu bloc ar gwmnïau fferyllol i roi ryseitiau a thechnoleg brechlyn gyda gweddill y byd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Rhyngwladol, Heledd Fychan AS,

Mae pandemig byd-eang yn galw am ymateb byd-eang. Mae gan Gymru ei rhan i’w chwarae wrth ddod â’r pandemig i ben a diogelu cymunedau ledled y byd. Yn fwy na hynny, mae ein cyfrifoldeb byd-eang wedi’i ysgrifennu i’r gyfraith.

Dywedwyd droeon nad yw’r feirws yn gwahaniaethu ond ni ellir dweud yr un peth am fynediad i’r brechlynnau. Dosberthir brechlynnau yn seiliedig ar gyfoeth a chenedligrwydd, yn hytrach nag angen – nid yn unig y mae'r rhaniad hwn yn anghyfiawn, mae’n anfoesol.

Dyna pam y dylai Cymru arwain y ffordd o ran rhannu ein harbenigedd a rhannu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel er mwyn dod â’r pandemig dan reolaeth ar lefel fyd-eang.

Ar ddechrau’r pandemig y rhwystr mwyaf i’w oresgyn oedd gwyddoniaeth, ond yn awr y rhwystr yw anghydraddoldeb. Mae gan Gymru gyfrifoldeb i chwarae ei rhan wrth ddod â’r pandemig i ben. Wedi’r cyfan, dydyn ni ddim yn rhydd o’r feirws yma nes bod pawb yn rhydd.”

Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru:

Er bod mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn cael eu gwahodd i dderbyn eu pigiadau atgyfnerthu COVID (booster jabs) ni allai’r realiti i bobl mewn gwledydd sy'n datblygu – lle dim ond 2% o bobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn – fod yn fwy gwahanol.

“Mae’n annerbyniol bod San Steffan yn parhau i rwystro ymdrechion i atal y patentau ar dechnolegau COVID fel bod cwmnïau fferyllol yn rhannu’r ryseitiau a’r dechnoleg brechlyn gyda gweddill y byd fel y gellir cynyddu cynhyrchiant brechlynnau ar frys.

Rhaid i’r Prif Weinidog a’r Senedd anfon neges unedig, ddiamwys at y Prif Weinidog Boris Johnson; na fyddant yn sefyll yn segur tra bod bywydau'n cael eu peryglu'n ddiangen ledled y byd, ac, o ganlyniad, yma yng Nghymru. Does neb yn ddiogel rhag COVID nes ein bod ni i gyd yn ddiogel.”