Mae'r Torïaid yn cyfarfod yn Llandudno heddiw. Gadewch i ni archwilio eu record gwarthus yng Nghymru dros yr 14 mlynedd diwetha.

1. Gwadu £4bn o arian i reilffyrdd: Mae dynodi HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr wedi gwadu tua £4bn o arian canlyniadol i Gymru, gan wadu cyllid y mae mawr ei angen arnom ar gyfer prosiectau megis trydaneiddio rheilffyrdd yng Nghymru.

2. Mwy o blant mewn tlodi: Mae 14 mlynedd o doriadau llymder Llywodraeth y DU a diwygiadau i bolisïau treth a lles yn golygu bod 29% o blant Cymru bellach yn byw mewn tlodi.

3. Morgeisi trwy’r to: Arweiniodd cyllideb drychinebus Liz Truss at gyfraddau llog yn mynd drwy’r to, gan gyrraedd eu lefel uchaf ers damwain ariannol fyd-eang 2008. Mae aelwydydd Cymru yn talu mwy diolch i anhrefn y Torïaid.

4. Llai o arian oherwydd Brexit y Torïaid: Mae Cymru ar ei cholled o £243m mewn cyllid gwledig oherwydd Brexit y Torïaid. Ynghyd â’r diffyg o £772m yng nghronfeydd strwythurol yr UE, mae Cymru yn colli allan ar fwy nag £1bn. Rhagwelir hefyd y bydd Brexit yn lleihau gwerth allforion Cymru tua £1.1bn.

5.Cael gwared ar forlyn llanw a rheilffordd drydan Abertawe: Mae’r Torïaid wedi chwalu gobeithion am fuddsoddiad y mae mawr ei angen yn Abertawe drwy gael gwared ar y morlyn llanw gwerth £1.3bn a’r trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe.

6. Lladd diwydiant dur Cymru: Yn sgil colli swyddi dinistriol ym Mhort Talbot, mae’r Torïaid wedi sefyll o’r neilltu tra bod asedau Cymreig yn cael eu tynnu, gan adael pobl Cymru i ysgwyddo’r costau.

7. System gyfiawnder wedi torri: Mae gwrthodiad y Torïaid i ddychwelyd cyfiawnder wedi arwain at ganlyniadau gwaeth ar draws y system cyfiawnder troseddol, gan arwain at ddryswch ym maes cyfiawnder a phlismona yng Nghymru.

8. Tawelu democratiaeth Cymru: Gwnaeth y Ddeddf Marchnadoedd Mewnol ddifrod difrifol i bwerau’r Senedd, a allai orfodi Cymru i dderbyn cynnyrch sy’n dilyn safonau is mewn mannau eraill yn y DU.

9. Ariannu annheg i Gymru: Mae gwrthodiad y Torïaid i ddiwygio Fformiwla Barnett – a fyddai’n sicrhau bod cyllid yn seiliedig ar angen ac yn rhoi pwerau benthyca hanfodol i Lywodraeth Cymru – wedi gadael Cymru’n agored i’r argyfwng costau byw.

10. Dwyn elw Cymru i Lundain: Nid yw Cymru eto wedi elwa ar ei hadnoddau naturiol ei hun, oherwydd i’r Torïaid wrthod datganoli pwerau dros Ystad y Goron – gwerth dros £600m yn 2021.