Plaid Cymru yn galw am weithredu’r Ddeddf Rhentu “o’r diwedd” – bum mlynedd ar ôl iddi gael ei phasio

Dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â gweithredu eu cyfreithiau newydd heb oedi pellach ynghylch troi allan “heb fai”, a rhoi'r gorau i guddio y tu ôl i reoliadau amheus y Coronafeirws, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar Dai a Chynllunio, Mabon ap Gwynfor AS.

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad i ddeddfwriaeth frys sy'n rhoi amddiffyniad i denantiaid preifat rhag cael eu troi allan – deddfwriaeth  sy'n cael ei chyflwyno fel rhan o fesurau coronafeirws brys.

Dywedodd y cyhoeddiad: “Effaith y newidiadau hyn fydd ymestyn, am dri mis arall, y cyfnod pryd y bydd angen i landlordiaid, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, roi mwy o rybudd i denantiaid cyn dechrau achos meddiant yn y llysoedd.”

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS: “Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd yr amddiffyniadau a roddir ar waith i atal tenantiaid rhag cael eu troi allan yn cael eu hymestyn tan ddiwedd y flwyddyn. Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro am fwy o amddiffyniad i denantiaid. Ond rwy'n pryderu'n ddifrifol bod yr amddiffyniadau hyn yn rhai tymor byr ac yn cael eu cyflwyno drwy ddeddfwriaeth amddiffyn iechyd amheus. Yn hytrach na chuddio y tu ôl i'r Coronafeirws, dylent weithredu'r Ddeddf Rhentu newydd a gafodd ei deddfu bum mlynedd yn ôl.”

Pasiwyd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn 2016 ac mae'n cynnwys cymal fydd yn ymestyn unrhyw ddadfeddiannu heb fai o 2 fis i 6 mis. Beirniadodd Mabon ap Gwynfor AS Lywodraeth Lafur Cymru am eu gweithredu'n araf:

“Cafodd y gyfraith hon ei phasio bum mlynedd yn ôl, ac er ei bod wedi'i diwygio, nid yw byrdwn y gyfraith wedi'i weithredu o hyd. Rhaid i hyn fod yn record. Mae angen y sicrwydd hwnnw ar denantiaid, er mwyn iddynt wybod na ellir eu taflu allan o'u cartref heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain. Nid oes rheswm pam na ddylid ei gychwyn ar unwaith. Mae gan y Llywodraeth y pwerau eisoes i'w gorfodi, felly mae’n ddirgelwch pam eu bod yn parhau i ohirio ei chychwyn ac yn hytrach yn dewis rhoi hawliau estynedig i denantiaid yn seiliedig ar sail iechyd y cyhoedd.”