Mae cais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod Llywodraeth Lafur wedi gofyn i San Steffan ohirio'r broses ddatganoli

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i egluro ei safbwynt ar drosglwyddo’r pwerau dros ddŵr Cymru i Gymru, ar ôl i gais Rhyddid Gwybodaeth ddatgelu bod Gweinidogion Cymru wedi gofyn am ohirio’r broses o ddatganoli Dŵr, fel y nodir yn Neddf Cymru 2017.

Mae Deddf Cymru 2017 yn cynnwys pwerau i alinio cymhwysedd deddfwriaethol a gweithredol mewn perthynas â dŵr i gyd-fynd â ffin ddaearyddol Cymru a Lloegr. Mae’r deddfwriaeth sydd yn bodoli ar hyn o bryd yn cadw pwerau i San Steffan mewn perthynas â chyflenwi a rheoleiddio dŵr yng Nghymru.

Roedd Deddf 2017 yn cynnwys datganoli pwerau dros garthffosiaeth ymhellach i'r Senedd, yn cyflwyno protocol rhynglywodraethol ar gyfer rheoli materion dŵr trawsffiniol, ac yn dileu pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i ymyrryd mewn achosion lle mae Bil y Senedd neu weithredoedd corff cyhoeddus yng Nghymru yn cael effeithiau niweidiol difrifol ar adnoddau dŵr yn Lloegr, gan gynnwys ei gyflenwad neu ansawdd.

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi awgrymu bod San Steffan yn llusgo eu traed wrth mynd ati i drosglwyddo pwerau, ond mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu bod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2018 yn gofyn iddyn nhw ohirio’r proses o drosglwyddo pŵer dros ddŵr oherwydd ei 'gymhlethdod'.

Dywedodd Delyth Jewell o Blaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru egluro ei safbwynt yng ngoleuni'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a dywedodd y byddai "datganoli pwerau dŵr yn llawn yn sicrhau y gellid defnyddio ein hadnoddau naturiol er budd Cymru", ac y byddai'n "caniatáu i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r materion amgylcheddol niferus sy'n cael eu hachosi gan lygredd carthion."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Newid Hinsawdd, Ynni a Thrafnidiaeth, Delyth Jewell AS:

“Mae Cymru yn genedl sydd â digonedd o adnoddau naturiol - gan gynnwys dŵr - ond ar hyn o bryd, mae'r pwerau dros yr adnoddau yma yn cael eu cadw dan glo yn San Steffan.

“Yn wahanol i’r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid yw pwerau datganoledig y Senedd dros ddŵr yn cyd-fynd â ffiniau daearyddol Cymru. Mae hyn yn golygu nad oes gan Gymru reolaeth effeithiol dros drosglwyddo dŵr i’w ddefnyddio gan gwmnïau preifat sydd wedi'u lleoli yn Lloegr.

“Byddai datganoli Dŵr, fel y nodir yn Neddf Cymru 2017 yn mynd i’r afael â’r mater hwn ac yn dod â phwerau Cymru yn unol â’r rhai sy’n cael eu dal ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon - ond mae’n siomedig nad yw’r pŵer hwn, chwe blynedd yn ddiweddarach, wedi’i gweithredu eto.

“Er gwaethaf eu honiad blaenorol mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am beidio â gweithredu pwerau dŵr Cymru, mae'n destun pryder gweld bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi llusgo ei thraed ar y mater hwn.

“Mae Llywodraeth Cymru, gyda chryn gyfiawnhad, wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn aml am ei dull gelyniaethus ac anghydweithredol o ymdrin â datganoli. Ond mae gan Lywodraeth Cymru hefyd rwymedigaeth i fod yn rhagweithiol wrth geisio pwerau newydd, ac i wella fframwaith datganoledig sydd ddim yn cyrraedd ei botensial llawn dros Gymru ar hyn o bryd.

“Byddai datganoli pwerau dŵr yn llawn yn sicrhau y gellid defnyddio adnoddau naturiol Cymru er budd Cymru, a byddai’n caniatáu i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r materion amgylcheddol niferus a achosir gan lygredd carthion.

“Yn hyn o beth, dylai Llywodraeth Cymru ofyn yn ffurfiol i’r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu pwerau dŵr Deddf Cymru 2017 heb oedi pellach.”