Disgwylir i Blaid Cymru fabwysiadu addewid yn ffurfiol i gynnig refferendwm annibyniaeth Cymru o fewn tymor cyntaf y Llywodraeth pe bai'n llwyddiannus yn etholiadau Senedd eleni.

Mae cynhadledd arbennig y blaid ar annibyniaeth, a gynhelir heddiw (dydd Sadwrn 13eg o Chwefror), yn debygol o weld aelodau’r blaid yn cymeradwyo yn ffurfiol yr addewid a wnaed gan Arweinydd y blaid Adam Price y llynedd.

Ym mis Rhagfyr, addawodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn amodol ar gymeradwyaeth y blaid, y bydd Llywodraeth Plaid Cymru, a fydd yn gallu rheoli mwyafrif yn y Senedd, yn cynnig refferendwm ar annibyniaeth i Gymru yn ei dymor cyntaf.

Pe bai'n cael ei basio, byddai'r polisi'n golygu mai Plaid Cymru yw'r unig blaid wleidyddol sy'n cystadlu yn etholiadau Senedd 2021 gydag ymrwymiad i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru o fewn amserlen glir.

Byddai hefyd yn gwneud etholiadau Senedd 2021 yr etholiadau cyntaf erioed yng Nghymru lle mae annibyniaeth a'i hamserlen ar y papur pleidleisio.

Gydag Alban annibynnol ac Iwerddon unedig yn “yn fwy tebygol byth”, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod pobl Cymru hefyd yn haeddu’r “cyfle i benderfynu”.

Mae aelodaeth y grŵp llawr gwlad Yes Cymru wedi tyfu’n gyflym - gan daro 17,000 o aelodau y mis diwethaf. Mae 25,000 o bobl wedi llofnodi ei addewid ar-lein sydd yn cefnogi refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price MS,

“Mae rhywbeth yn digwydd yng Nghymru. Dangosodd y ddau arolwg barn diwethaf bod cefnogaeth i annibyniaeth ar ei uchaf mewn hanes. Mae miloedd bellach wedi ymuno â'r mudiad llawr gwlad dros annibyniaeth, Yes Cymru. Ac mae dadl arferai fod yn freuddwyd bell nawr wedi symud o'r ymylon i'r brif sgwrs.

“Gydag Alban annibynnol ac Iwerddon unedig yn debygol erbyn diwedd y degawd, mae pobl Cymru yn haeddu cyfle i benderfynu a ydyn nhw hefyd eisiau dyfodol annibynnol.

“Nid ydym am ennill annibyniaeth er mwyn ennill annibyniaeth, ond yn hytrach er mwyn y miloedd o deuluoedd sydd yn dibynnu ar Gymru i ddod yn genedl decach, fwy cyfartal.

“Nid yw hyn yn ornest rhwng “ni a nhw”. Nid yw hyn am un person neu unigolyn. Yr unig ‘hunan’ sy’n bwysig yw hunan-lywodraeth - y gallu i wneud annibyniaeth yn rym er gwell ac i wella bywydau pob un ohonom yng Nghymru.