Dylai pobol gael hawl i loches yn sgil eu gwerth “cynhenid” fel bodau dynol, yn hytrach na’r “gwerth” economaidd, meddai Ben Lake AS

Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael gwared ar ofynion fisas ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin, meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru Ceredigion, Ben Lake.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel, gyhoeddi heddiw (1 Mawrth), y bydd mwy o berthnasau pobol o’r Wcráin sy’n byw yn y Deyrnas Unedig yn cael dod yma am flwyddyn.

Bydd rhieni, neiniau a theidiau, plant sy’n oedolion, brodyr a chwiorydd, a’u teuluoedd agos yn cael dod i’r Deyrnas Unedig nawr.

Fe wnaeth Priti Patel gyhoeddi ei bod hi’n bosib i bobol o’r Wcráin sydd heb deulu yn y Deyrnas Unedig ddod yma drwy efeillio ag unigolion, elusennau, busnesau, neu grwpiau cymunedol drwy Lwybr Nawdd Dyngarol, hefyd.

Ond mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Ceredigion wedi beirniadu Llywodraeth San Steffan am beidio mynd mor bell â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, ac wedi gofyn am gael gwared ar ofynion fisas am dair blynedd i bobol o’r Wcráin.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, gofynnodd a fyddai brodyr a chwiorydd sy’n oedolion a phlant sy’n ddibynnol arnyn nhw yn cael ymuno â’u teulu o’r Wcráin yn y Deyrnas Unedig, ac a fydd hi’n bosib i wyrion ac wyresau wneud yr un fath ar eu pennau eu hunain.

Cadarnhaodd Priti Patel y bydd brodyr a chwiorydd sy’n oedolion a’u plant, ac wyrion ac wyresau ar eu pennau eu hunain yn gallu dod i’r Deyrnas Unedig dan y rhaglen.

Dywedodd Ben Lake:

“Mae Plaid Cymru yn croesawu’r newyddion bod y Swyddfa Gartref yn deffro i annigonolrwydd eu ymateb cychwynnol i’r argyfwng ffoaduriaid diweddaraf hwn. Bydd ffoaduriaid o Wcráin nawr yn derbyn mwy o gymorth i gyrraedd diogelwch yn y DU.

“Tra ein bod yn aros am fanylion llawn y llwybr nawdd dyngarol newydd, mae’n amlwg na fydd yn cynnig cymorth tebyg i’r hyn a gynigir gan wledydd eraill. Nid all nawdd gan unigolion a theuluoedd gymryd lle cynlluniau llywodraethol fel yr eithriadau fisa sy’n cael eu gweithredu yn yr UE.

“Mae cynllun y Swyddfa Gartref hefyd yn cynnwys paru ceiswyr lloches â busnesau, gan godi’r cwestiwn a fydd cymhwyster yn cael ei benderfynu ar sail ‘gwerth’ economaidd yn hytrach nag anghenion dyngarol pobl a’u gwerth cynhenid fel bodau dynol.

“Fel y gwelsom gyda Chynllun Adsefydlu Afghanistan – nid yw’r systemau cymhleth a chyfyngol hyn yn cyd-fynd â’n huchelgais yng Nghymru i fod yn Genedl Noddfa. Mae angen ailwampio ein system lloches ar frys fel bod y rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth yn cael eu croesawu â breichiau agored, yn lle wynebu rhwystrau bob cam o’r ffordd.”